Rhoi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol a niwsans

Os oes rhywun yn achosi problem i chi a bod angen help arnoch, cysylltwch â ni am gyngor ac, os oes angen, i wneud cwyn ffurfiol.

Gallwch gyflwyno cwynion am ymddygiad gwrthgymdeithasol a niwsans gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.

Rhoi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol a niwsans >

Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili.  Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau.  Os nad ydych am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym!

Gallwch hefyd ymweld â chanolfan gwasanaethau cwsmeriaid.

Beth yw niwsans ac ymddygiad gwrthgymdeithasol?

Ymddygiad gwrthgymdeithasol yw ymddygiad sy’n atal pobl eraill rhag mwynhau bywyd o ansawdd derbyniol. Dyma rai enghreifftiau o niwsans ac ymddygiad gwrthgymdeithasol:

  • Ymddygiad meddw ac afreolus
  • Partïon swnllyd
  • Chwarae cerddoriaeth yn rhy uchel
  • Trais neu fygwth trais
  • Aflonyddu ar rywun neu ar grŵp o bobl
  • Fandaleiddio eiddo pobl eraill
  • Cam-drin domestig

Beth allwn ni ei wneud i helpu?

Mae llawer o gwestiynau a llawer o gamddealltwriaeth o ran pa gamau y gallwn ni eu cymryd i ddatrys problemau sy’n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a niwsans, a’r camau na allwn ni eu cymryd hefyd.

Camau sy’n gallu cael eu cymryd

  • Ymweld â’r person a/neu ysgrifennu ato i roi gwybod iddo ei fod yn achosi problem
  • Rhoi cymorth i helpu i atal y broblem
  • Atgyfeirio i wasanaeth cyfryngu (bydd rhaid i’r ddwy ochr gytuno i hyn)
  • Atgyfeirio i wasanaeth cymorth (gall hyn fod ar gyfer y naill berson neu’r llall)
  • Anfon llythyr rhybudd terfynol at y person sy’n achosi’r broblem
  • Cyflwyno gwaharddeb yn erbyn y person sy’n achosi’r broblem
  • Gwneud cais i’r Llys Sirol i gymryd meddiant o’i gartref 

Camau nad yw’n gallu cael eu cymryd

  • Ni allwn weithredu heb gydweithrediad a chymorth llawn yr achwynydd
  • Ni ystyrir defnyddio gwasanaethau cyfryngu oni bai bod y ddwy ochr yn fodlon datrys y broblem
  • Ni ellir gweithredu os nad yw’r broblem yn ddigon difrifol, os nad yw’r gyfraith wedi’i thorri neu os nad oes digon o dystiolaeth
  • Ni allwn ni droi allan deiliaid contract sy’n torri amodau eu contract meddiannaeth oni bai bod digon o dystiolaeth i gymryd camau cyfreithiol
  • Ni allwn ni droi deiliaid contract allan heb fynd i’r Llys a chael gorchymyn llys

Beth allwch chi ei wneud?

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwneud eu gorau i ddod ymlaen gyda’i gilydd, ond weithiau bydd problemau’n codi. Pe bai hynny’n digwydd, gallwch wneud rhai pethau syml i helpu i ddatrys problemau o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol a niwsans.

Dylech wneud y canlynol:

  • Ceisio datrys eich problemau eich hun yn gyntaf
  • Cadw pwyll drwy’r amser
  • Meddwl am yr hyn rydych am ei ddweud cyn siarad
  • Ewch i siarad â’r person ar adeg pan rydych yn gwybod y bydd ganddo amser i siarad â chi (nid pan fydd ar ei ffordd i’r gwaith neu’n mynd â’i blant i’r ysgol)
  • Siaradwch â nhw wyneb yn wyneb pan fyddant ar eu pen eu hunain
  • Siaradwch â nhw’n dawel ac yn gwrtais
  • Gwrandewch ar eu safbwynt nhw hefyd
  • Byddwch yn barod i gyfaddawduGadewch yn syth os bydd pobl yn ymddwyn yn ymosodol neu’n fygythiol pan fyddwch yn mynd i siarad â nhw – os bydd hyn yn digwydd bydd angen i chi ystyried cael help i ddatrys y broblem

Peidiwch â gwneud y canlynol:

  • Siarad â’r person os ydych yn grac neu wedi’ch cythruddo
  • Siarad â’r person os ydyw’n grac neu wedi’i gythruddo
  • Diystyru ei esboniad o’r broblem
  • Rhegi neu weiddi at y person
  • Colli eich tymer, ymddwyn yn ymosodol, defnyddio iaith y corff sy’n ymosodol neu iaith wahaniaethol

Os ydych o’r farn nad yw siarad â’r person wedi gwella’r sefyllfa neu os nad ydych yn fodlon siarad ag ef, gall fod yn bryd i chi ofyn am help.

Cysylltiadau defnyddiol