Tan-feddiannaeth
Cafodd tan-feddiannaeth, a elwir hefyd yn aml y 'Treth Ystafell Wely' ei chyflwyno yn y sector rhentu cymdeithasol ar 1 Ebrill 2013.
Gall tenantiaid oedran gweithio, tenantiaid y cyngor neu gymdeithasau tai sy’n derbyn budd-dal tai, gael eu budd-dal tai wedi’i ostwng os tybir eu bod yn tan-feddiannu'r eiddo.
Faint o ystafelloedd gwely a chaniateir yn fy nghartef?
Caiff un ystafell wely ei chyfrif ar gyfer:
- pob oedolyn neu gwpl sy’n oedolion
- person nad yw'n blentyn (16 oed a throsodd)
- pob dau blentyn o dan 10 oed (waeth beth fo'u rhyw) ac unrhyw blentyn arall
- pob dau o blant o dan 16 oed os ydynt o'r un rhyw
- unrhyw blentyn arall
- gofalydd dibreswyl os oes angen gofal dros nos gennych chi neu'ch partner
- Caniateir gofalyddion maeth ar yr amod eu bod wedi maethu plentyn neu ddod yn ofalydd maeth cymeradwy o fewn y 52 wythnos diwethaf
- rhieni â phlant sy'n oedolion yn y lluoedd arfog (neu wrth gefn) sydd fel arfer yn byw gyda nhw; byddant yn gallu cadw'r ystafell wely ar gyfer y plentyn oedolyn hwnnw pan fyddant i ffwrdd ar ymgyrchoedd
Gall y gwasanaeth budd-daliadau hefyd caniatáu ystafell wely ychwanegol ar gyfer plentyn nad yw'n gallu rhannu ystafell wely oherwydd anabledd neu gyflwr meddygol. Mae'n rhaid i'r plentyn fod yn derbyn elfen ofal y Lwfans Byw Anabl ar y gyfradd ganol neu uchaf.
Nid yw ystafelloedd gwely ychwanegol yn cael eu caniatáu ar gyfer plant sy'n ymweld â'r cartref ar benwythnosau.
Mae'r rheolau hyn yn golygu y bydd y tenantiaid hynny sydd a'u llety'n fwy nag sydd ei angen arnynt, efallai yn colli rhan o'u budd-dal tai.
Faint o fudd-dal y byddaf yn colli?
Os ydych yn 'tan-feddiannu' eich llety, byddwch yn gweld gostyngiad yn eich budd-dal tai fel a ganlyn:
- 14% o gyfanswm eich rhent cymwys oherwydd tan-feddiannaeth o un ystafell wely
- 25% o gyfanswm eich rhent cymwys oherwydd tan-feddiannaeth o ddwy ystafell wely neu fwyOs yw eich budd-dal tai yn cael ei leihau, bydd yn rhaid i chi dalu unrhyw ddiffyg o rent i'ch landlord.
Enghreifftiau
Enghraifft 1: Mae cwpl yn byw mewn tŷ 3 ystafell wely a ganddynt un plentyn 3 oed. Yn seiliedig ar y rheolau newydd, bydd y cartref dim ond yn gymwys i gael 2 ystafell wely, felly bydd eu Budd-dal Tai yn cael ei leihau o £11 yr wythnos (£572 y flwyddyn).
Enghraifft 2: Mae cwpl yn byw mewn tŷ 3 ystafell wely gyda'u mab 14 oed a merch 17 oed. Yn seiliedig ar y rheolau newydd ni fydd eu Budd-dal Tai yn cael ei effeithio gan eu bod yn gymwys i gael 3 ystafell wely.
Enghraifft 3: Mae rhiant sengl yn byw mewn tŷ tair ystafell wely gyda'i meibion 6 ac 8 oed. Yn seiliedig ar y rheolau newydd, bydd y cartref dim ond yn gymwys i gael 2 ystafell wely, felly bydd eu Budd-dal Tai yn cael ei leihau o £11 yr wythnos (£572 y flwyddyn).
Enghraifft 4: Mae cwpl yn byw mewn tŷ 4 ystafell wely gyda'u merch 5 oed a mab 7 oed. Mae mab y gŵr 16 oed yn dod i aros ar benwythnosau. Yn seiliedig ar y rheolau newydd byddant ond yn gymwys i gael 2 ystafell wely. Byddai disgwyl i’w merch a’r mab ieuengaf i rannu ystafell ac ni fydd y mab hynaf yn cael ei gyfrif gan ei fod yn aros ar benwythnosau’n unig. Bydd y cwpl yn cael gostyngiad yn eu budd-dal o £20 yr wythnos (£1,040 y flwyddyn).