Rhowch wybod i ni am dwyll posibl

Pob blwyddyn mae twyll budd-daliadau yn costio oddeutu £2 biliwn i'r wlad. Mae hynny fel cymryd £80 y flwyddyn o bob teulu yn y DU. Os ydych yn meddwl bod rhywun yn cyflawni twyll budd-dal, gallwch roi gwybod amdanynt a'u hatal rhag cymryd arian oddi wrth y bobl sydd ei angen fwyaf.

Beth yw twyll budd-daliadau?

Twyll budd-daliadau yw pan fydd rhywun yn dweud celwydd er mwyn cael budd-dal. Mae hyn yn cynnwys pobl:

  • nad ydynt yn adrodd eu bod yn byw gyda'i gilydd fel gŵr a gwraig neu fel partneriaid sifil
  • nad ydynt yn adrodd am incwm neu gyfalaf
  • nad ydynt yn adrodd pan fyddant yn byw dramor
  • sydd yn darparu cyfeiriad ffug
  • nad ydynt yn adrodd am fudd-daliadau neu ffynonellau incwm arall
  • nad ydynt yn adrodd am newidiadau mewn amgylchiadau

Adroddwch am dwyll budd-dal

Ffoniwch Llinell Frys Twyll Budd-daliadau Genedlaethol i adrodd twyll budd-daliadau i'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) 

  • 0800 854 440 (Saesneg)
  • 0800 678 3722 (Cymraeg)
  • Ffôn Testun: 0800 328 0512

Ar agor Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am tan 6pm

Gallwch hefyd roi gwybod os ydych yn amau twyll budd-dal drwy'r post neu ar-lein.

Llinell Frys Twyll Budd-daliadau Genedlaethol
PO Box 224
Preston
PR1 1GP

Cysylltwch â ni