Hawlio Credyd Cynhwysol
Os ydych yn ddi-waith neu ar incwm isel ac angen cymorth gyda’ch costau byw, gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Cyflwynwyd Credyd Cynhwysol ym mwrdeistref sirol Caerffili ar 5 Medi 2018 ac mae wedi disodli Budd-dal Tai ar gyfer y rhan fwyaf o bobl o oedran gweithio.
Bydd y ddolen isod yn eich cyfeirio at wefan Credyd Cynhwysol ac yn rhoi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch, gan gynnwys sut i wneud cais.
Serch hynny, gellir dal hawlio Budd-dal Tai os ydych yn cwrdd ag unrhyw un o’r amodau canlynol:
- Rydych chi a’ch partner wedi cyrraedd oedran pensiwn
- Rydych yn aros mewn lloches, hostel neu ryw fath o dŷ dros dro neu dŷ â chymorth
I hawlio Budd-dal Tai, mae angen ichi lenwi ffurflen gais ar-lein.
Hawlio Lleihad mewn Treth y Cyngor
Os ydych yn hawlio Budd-dal Tai, gallwch barhau i hawlio am Ostyngiad Treth y Cyngor fel rhan o'r un cais. Fodd bynnag, os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol, bydd angen i chi wneud cais am hyn ar wahân. Ewch i'n is-adran Gostyngiad Treth y Cyngor am fanylion pellach.
Faint fyddaf yn ei dderbyn?
P'un ai ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol neu Fudd-dal Tai, caiff y swm y gallwch ei gael ei gyfrifo trwy edrych ar:
- faint o arian sydd gennych yn dod i mewn
- eich amgylchiadau personol a faint o rent y mae'n rhaid i chi ei dalu
- faint o gynilion sydd gennych
Profwch y cyfrifianellau budd-daliau hyn i weld pa gymorth gallech ei gael.
Ydy eich hamgylchiadau wedi newid?
Os ydych yn hawlio naill ai Credyd Cynhwysol neu Fudd-dal Tai a bod eich amgylchiadau'n newid, mae'n bwysig eich bod yn hysbysu am y newidiadau hyn. Os na wnewch, gallai hyn olygu eich bod naill ai'n cael eich talu ormod neu ddim digon. Ewch i'n is-adran newid amgylchiadau i gael rhagor o fanylion.
Hawlio am brydau ysgol am ddim
Os ydych yn derbyn Credyd Cynhwysol neu Fudd-dal Tai, efallai y bydd hawl gennych hefyd i gael prydau ysgol am ddim i unrhyw blant rydych yn gyfrifol amdanynt. Gallai hyn arbed gymaint â £400 i chi y flwyddyn y plentyn. Ewch i'n is-adran prydau ysgol am ddim i gael rhagor o fanylion.