Lwfans tai lleol 

Os ydych chi'n denant preifat yn rhentu eiddo neu ystafell gan landlord preifat ac rydych ar incwm isel, efallai y byddwch yn gallu hawlio a derbyn Lwfans Tai Lleol (LTLl).

Gallwch hawlio Lwfans Tai Lleol drwy gwblhau hawliad budd-dal tai.

Faint y byddaf yn derbyn?

Mae swm y budd-dal tai/cyfradd lwfans tai lleol a gewch yn seiliedig ar nifer yr ystafelloedd gwely sydd angen ar eich teulu.

Caiff un ystafell wely ei chyfrif ar gyfer:

  • pob oedolyn neu gwpl sy’n oedolion
  • person nad yw'n blentyn (16 oed a throsodd)
  • pob dau blentyn o dan 16 oed os ydynt o'r un rhyw
  • pob dau blentyn o dan 10 oed (waeth beth fo'u rhyw) unrhyw blentyn arall
  • gofalydd dibreswyl os oes angen gofal dros nos gennych chi neu'ch partner
  • Caniateir gofalyddion maeth i gael un ystafell ychwanegol ar yr amod eu bod wedi maethu plentyn neu ddod yn ofalydd maeth cymeradwy o fewn y 52 wythnos diwethaf
  • rhieni â phlant sy'n oedolion yn y lluoedd arfog (neu wrth gefn) sydd fel arfer yn byw gyda nhw; byddant yn gallu cadw'r ystafell wely ar gyfer y plentyn sy’n oedolyn hwnnw pan fyddant i ffwrdd ar ymgyrchoedd

Er mwyn cyfrifo faint o ystafelloedd gwely sydd eu hangen defnyddiwch y cyfrifiannell ystafell wely.

Mae'r symiau Lwfans Tai Lleol yn cael eu hadolygu ar 1 Ebrill bob blwyddyn.

Cyfraddau Lwfans Tai Lleol o 1 Ebrill 2023

Y cyfraddau ar gyfer 1 Ebrill 2023 hyd 31 Mawrth 2024:

 

Cyfradd wythnosol 

Ystafell sengl (mewn eiddo a rennir)

£75.95

Un ystafell wely

£79.40

Dwy ystafell wely

£103.56

Tair ystafell wely

£108.16

Pedair ystafell wely

£138.08

Cyfraddau Lwfans Tai Lleol o 1 Ebrill 2022

Y cyfraddau ar gyfer 1 Ebrill 2022 hyd 31 Mawrth 2023:

 

Cyfradd wythnosol 

Ystafell sengl (mewn eiddo a rennir)

£75.95

Un ystafell wely

£79.40

Dwy ystafell wely

£103.56

Tair ystafell wely

£108.16

Pedair ystafell wely

£138.08

Ydych chi o dan 35?

Os ydych yn byw ar eich pen eich hun ac o dan 35 mlwydd oed, dim ond hawl i gael y gyfradd ystafell sengl sydd gennych. Fodd bynnag, mae gan rai dan 35 yr hawl i'r gyfradd un ystafell wely, mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • os ydych yn derbyn yr elfen gofal ganolig neu uchaf o lwfans byw anabl

  • os ydych dros 25 oed ac wedi treulio o leiaf dri mis mewn hostel arbenigol (neu hosteli) ar gyfer pobl ddigartref a phrif bwrpas y hostel(i) oedd darparu llety, gofal, goruchwyliaeth neu gefnogaeth i gynorthwyo adsefydlu neu ailgartefu yn y gymuned.

Mae hyn ond yn berthnasol os ydych yn byw mewn eiddo hunangynhwysol un ystafell wely. Os ydych yn byw mewn llety a rennir, ni fyddwch yn derbyn y gyfradd ystafell sengl. 

Cysylltwch â ni