Lwfans tai lleol
Os ydych chi'n denant preifat yn rhentu eiddo neu ystafell gan landlord preifat ac rydych ar incwm isel, efallai y byddwch yn gallu hawlio a derbyn Lwfans Tai Lleol (LTLl).
Gallwch hawlio Lwfans Tai Lleol drwy gwblhau hawliad budd-dal tai.
Faint y byddaf yn derbyn?
Mae swm y budd-dal tai/cyfradd lwfans tai lleol a gewch yn seiliedig ar nifer yr ystafelloedd gwely sydd angen ar eich teulu.
Caiff un ystafell wely ei chyfrif ar gyfer:
- pob oedolyn neu gwpl sy’n oedolion
- person nad yw'n blentyn (16 oed a throsodd)
- pob dau blentyn o dan 16 oed os ydynt o'r un rhyw
- pob dau blentyn o dan 10 oed (waeth beth fo'u rhyw) unrhyw blentyn arall
- gofalydd dibreswyl os oes angen gofal dros nos gennych chi neu'ch partner
- Caniateir gofalyddion maeth i gael un ystafell ychwanegol ar yr amod eu bod wedi maethu plentyn neu ddod yn ofalydd maeth cymeradwy o fewn y 52 wythnos diwethaf
- rhieni â phlant sy'n oedolion yn y lluoedd arfog (neu wrth gefn) sydd fel arfer yn byw gyda nhw; byddant yn gallu cadw'r ystafell wely ar gyfer y plentyn sy’n oedolyn hwnnw pan fyddant i ffwrdd ar ymgyrchoedd
Er mwyn cyfrifo faint o ystafelloedd gwely sydd eu hangen defnyddiwch y cyfrifiannell ystafell wely.
Mae'r symiau Lwfans Tai Lleol yn cael eu hadolygu ar 1 Ebrill bob blwyddyn.
Cyfraddau Lwfans Tai Lleol o 1 Ebrill 2023
Y cyfraddau ar gyfer 1 Ebrill 2023 hyd 31 Mawrth 2024:
|
Cyfradd wythnosol
|
Ystafell sengl (mewn eiddo a rennir)
|
£75.95
|
Un ystafell wely
|
£79.40
|
Dwy ystafell wely
|
£103.56
|
Tair ystafell wely
|
£108.16
|
Pedair ystafell wely
|
£138.08
|
Cyfraddau Lwfans Tai Lleol o 1 Ebrill 2022
Y cyfraddau ar gyfer 1 Ebrill 2022 hyd 31 Mawrth 2023:
|
Cyfradd wythnosol
|
Ystafell sengl (mewn eiddo a rennir)
|
£75.95
|
Un ystafell wely
|
£79.40
|
Dwy ystafell wely
|
£103.56
|
Tair ystafell wely
|
£108.16
|
Pedair ystafell wely
|
£138.08
|
Cyfraddau Lwfans Tai Lleol o 1 Ebrill 2021
Y cyfraddau ar gyfer 1 Ebrill 2021 hyd 31 Mawrth 2022:
|
Cyfradd wythnosol
|
Ystafell sengl (mewn eiddo a rennir)
|
£75.95
|
Un ystafell wely
|
£79.17
|
Dwy ystafell wely
|
£103.56
|
Tair ystafell wely
|
£108.16
|
Pedair ystafell wely
|
£138.08
|
Cyfraddau Lwfans Tai Lleol o 1 Ebrill 2020
Y cyfraddau ar gyfer 1 Ebrill 2020 hyd 31 Mawrth 2021:
|
Cyfradd wythnosol
|
Ystafell sengl (mewn eiddo a rennir)
|
£75.95
|
Un ystafell wely
|
£79.17
|
Dwy ystafell wely
|
£103.56
|
Tair ystafell wely
|
£108.16
|
Pedair ystafell wely
|
£138.08
|
Cyfraddau Lwfans Tai Lleol o 1 Ebrill 2019
Y cyfraddau ar gyfer 1 Ebrill 2019 hyd 31 Mawrth 2020:
|
Cyfradd wythnosol
|
Ystafell sengl (mewn eiddo a rennir)
|
£54.64
|
Un ystafell wely
|
£73.64
|
Dwy ystafell wely
|
£94.36
|
Tair ystafell wely
|
£103.56
|
Pedair ystafell wely
|
£136.25
|
Ydych chi o dan 35?
Os ydych yn byw ar eich pen eich hun ac o dan 35 mlwydd oed, dim ond hawl i gael y gyfradd ystafell sengl sydd gennych. Fodd bynnag, mae gan rai dan 35 yr hawl i'r gyfradd un ystafell wely, mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:
-
os ydych yn derbyn yr elfen gofal ganolig neu uchaf o lwfans byw anabl
-
os ydych dros 25 oed ac wedi treulio o leiaf dri mis mewn hostel arbenigol (neu hosteli) ar gyfer pobl ddigartref a phrif bwrpas y hostel(i) oedd darparu llety, gofal, goruchwyliaeth neu gefnogaeth i gynorthwyo adsefydlu neu ailgartefu yn y gymuned.
Mae hyn ond yn berthnasol os ydych yn byw mewn eiddo hunangynhwysol un ystafell wely. Os ydych yn byw mewn llety a rennir, ni fyddwch yn derbyn y gyfradd ystafell sengl.