Cyweiriad


Peidiwch â thaflu’ch eitemau sydd wedi torri, atgyweiriwch nhw!

Yn y pendraw, bydd popeth rydym ni’n ei brynu yn torri neu’n treuli. A phan fydd hynny’n digwydd, yn rhy aml rydym ni’n cael gwared ar yr eitem sydd wedi torri neu’n hen. Mae hyn yn cynhyrchu llawer o wastraff diangen sy’n cyfrannu at allyriadau CO2 a newid yn yr hinsawdd. Ond,nid oes rhaid iddo fod felly.

Gall y mwyafrif o eitemau fod yn trwsio yn hawdd, yn aml am ychydig iawn o gost. Beth am roi ail fywed i’ch hoff eiddo, helpu’r amgylchedd, arbed rhiwfaint o arian ar hyd y ffordd, a symud Cymru i economi gylchol?

Os oes angen trwsio’ch eitem ar frys, dewch o hyd i fusnes atgywerio ar ein Cyfeiriadur Atgyweirio ar-lein.

Os nad yw’r atgyweiriad yn un brys, beth am fynd i ddigwyddiad Atgyweirio yn eich cymuned leol lle gall atgyweirwyr gwirfoddol yn atgyweirio’ch eitem?