Trwyddedau ar gyfer Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi

Bydd angen i chi gael eich trwydded o leiaf 24 awr cyn ei defnyddio ond dim mwy na phythefnos ymlaen llaw. Bydd ceisiadau yn cael eu prosesu yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gallwch chi wneud cais am drwydded ar-lein neu wyneb yn wyneb.

Rhaid gwneud ceisiadau am drwyddedau wyneb yn wyneb yn Nhŷ Penallta drwy drefnu apwyntiad. Gallwch chi wneud apwyntiad drwy ffonio 01443 866571 neu e-bostiwch RhPC@caerffili.gov.uk.

Ni fyddwch chi'n gallu mynychu Tŷ Penallta heb apwyntiad a dim ond taliadau cerdyn sy'n cael eu derbyn os oes tâl yn cael ei godi.

Mae taliadau am drwydded ar gyfer gwastraff adeiladu a dymchwel (gan gynnwys gwastraff peryglus). Y taliadau hyn yw:

  • £35.70 am fan fach (hyd at 2,200kg ac ôl-gerbydau llai na 1.8m o hyd)
  • £71.40 ar gyfer faniau canolig (2,201kg – 3,499kg).

Am ragor o wybodaeth am ein system drwyddedau, gwelwch ein cwestiynau cyffredin.

 
Cysylltwch â ni