FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Nid yw rhai o'n ffurflenni ar-lein ar gael ar hyn o bryd wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.

ONLINE FORMS: Some of our online forms are currently unavailable whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Biniau compost

Mae tua 30% o gynnwys eich bin yn weddillion o’r gegin a’r ardd, sy’n ddeunydd organig a all gael ei droi’n gompost i’ch gardd.

Beth alla i ei gompostio?

Dyma rywfaint o wybodaeth am yr hyn y gallwch ei ychwanegu i’ch bin i wneud y compost gorau. Ceisiwch rannu cynnwys y bin compostio'n hafal rhwng gwyrdd a brown i greu compost da.

‘Gwyrdd’

Pethau sy’n pydru’n gyflym, ac yn rhoi nitrogen a lleithder.

  • Tail anifeiliaid sy’n bwyta gwellt
  • Chwyn unflwydd
  • Cwlwm y cythraul
  • Rhedyn
  • Bonyn sbrowts
  • Pennau moronen
  • Croen lemwn/leim
  • Gwaddod coffi
  • Dail llysiau’r cwlwm
  • Blodau wedi’u torri
  • Ceirios y Gŵr Drwg
  • Plicion a phwlp ffrwythau
  • Hadau ffrwythau
  • Tociadau glaswellt
  • Gwair
  • Tociadau gwrych
  • Planhigion tŷ
  • Dail iorwg
  • Danadl poethion
  • Hen blanhigion o wely blodau
  • Chwyn lluosflwydd
  • Planhigion gwenwynig
  • Dail rhiwbob
  • Gwymon
  • Tociadau meddal a hen blanhigion
  • Dail a bagiau te
  • Wrin
  • Plicion a phwlp llysiau

‘Brown’

Yn pydru’n arafach, maent yn rhoi carbon a ffibr ac yn gwneud i bocedi aer ffurfio.

  • Dail hydref
  • Cardfwrdd
  • Coeden Nadolig
  • Leinwyr starts ŷd
  • Tyweli cotwm
  • Gwlân cotwm
  • Bocsys wyau
  • Plisgyn wy
  • Tociadau coed bytholwyrdd
  • Gwallt
  • Corciau naturiol
  • Cnau
  • Bagiau papur
  • Yswydden
  • Gwellt
  • Cobiau india corn
  • Tociadau dreiniog
  • Planhigion tomato
  • Papur cegin wedi’i ddefnyddio
  • Cynnwys hwfer
  • Lludw pren
  • Gwlân

Dim diolch!

Mae rhai pethau na ddylech eu rhoi yn y bin.

  • Esgyrn - gall ddenu plâu
  • Bara - gall ddenu plâu
  • Tuniau - ni fydd yn diraddio
  • Baw cath - gall gynnwys afiechyd
  • Diwedd sigarét - gall cemegau gael eu rhyddhau i’r compost
  • Ffilm lapio bwyd - ni fydd yn diraddio
  • Llwch glo - gall halogyddion achosi niwed i’r planhigion
  • Pecynnau creision - ni fydd yn diraddio
  • Cynhyrchion llaeth - gall ddenu plâu
  • Clytiau tafladwy  - perygl iechyd   
  • Ysgarthion cŵn - gall gynnwys afiechyd
  • Bwyd cŵn - gall ddenu plâu
  • Cartonau diodydd - ni fydd yn diraddio
  • Sgrapiau cig a physgod - gall ddenu plâu
  • Olew olewydd - gall ddenu plâu
  • Bagiau plastig - ni fydd yn diraddio
  • Poteli plastig - ni fydd yn diraddio
  • Hancesi papur sydd wedi eu defnyddio-  gall fod yn berygl iechyd

Manteision compostio gartref

  • Mae compostio’n atgyfeirio gwastraff organig o safleoedd tirlenwi ac mae’n helpu i leihau nwyau tŷ gwydr fel methan rhag cronni.
  • Mae compost yn llawn maetholion a gall fod yn gyflyrydd pridd rhagorol i’ch gardd. Mae am ddim, ac mae’n wrtaith da i bob math o blanhigion a llysiau. Mae’n fwyd sylfaenol i blanhigion ac yn gyflyrydd pridd o’r enw humus, sy’n gwella ffrwythlondeb ac ansawdd y pridd.
  • Gellir defnyddio compost yn lle gwrteithion niweidiol a mawnog.

Prynu bin compostio

Nid ydym bellach yn cynnig gwasanaeth noddedig. Yn hytrach, gallwch brynu biniau gwrtaith o ganolfannau garddio, siopau ‘DIY’ a manwerthwyr ar-lein.

 

Cysylltwch â ni