Helpu i roi’ch bin allan
Rydyn ni'n cynnig gwasanaeth lle rydyn ni'n casglu eich biniau o'r tu mewn i'ch eiddo
Efallai y byddwch chi’n gymwys ar gyfer help rhoi eich biniau allan os:
- Ydych chi'n dioddef o salwch sy'n effeithio eich symudedd a / neu
- Oes gennych chi anabledd sy'n effeithio eich symudedd
- Does neb sy’n byw yn yr eiddo nad ydyn nhw’n anabl.
Fel rhan o'r broses ymgeisio, efallai bydd angen i aelod o'r tîm gwastraff ymweld â'ch eiddo. Efallai y byddwn ni hefyd yn gofyn am dystiolaeth i gefnogi eich cais.
Os bydd eich cais yn cael ei gymeradwyo, byddwn ni'n casglu eich biniau o'ch eiddo ar eich casgliadau nesaf.
Gwasanaeth nôl bin o’r cartref
Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari
Talerau ac Amodau
- Dim ond ceisiadau sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd y byddwn ni'n eu prosesu. Bydd y rhai sydd ddim yn bodloni’r meini prawf yn cael eu diystyru.
- Rhesymau efallai y caiff eich cais ei wrthod:
- Nid yw'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd
- Mae gennych gefnogaeth/gofal
- Mae wedi'i adolygu yn unol â'n polisi adolygu casgliadau â chymorth (yn flynyddol)
- Mae'n bosibl y bydd ymweliad â'r safle yn cael ei gynnal i ddilysu'r cais
- Efallai y bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth i gefnogi'ch cais
- Mae'n bosibl y bydd ymweliad â'r safle yn cael ei gynnal i wirio'r cais a chynnal gwiriad ansawdd ar eich biniau ailgylchu, gwastraff bwyd a gwastraff cyffredinol.
Ar ôl cyflwyno eich cais, ni fydd modd ei newid