Tipio anghyfreithlon

Tipio anghyfreithlon yw gadael gwastraff hylifol neu solet yn anghyfreithlon ar dir neu mewn dŵr. Fel arfer, mae gwastraff yn cael ei adael i osgoi costau gwaredu.

Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd difrifol. Mae'n gallu golygu'r cosbau canlynol:

  • dirwy ddiderfyn a
  • hyd at 5 mlynedd o garchar.

Peidiwch â gwneud y canlynol:

  • Cyffwrdd â'r gwastraff. Gall gynnwys gwastraff peryglus (er enghraifft cemegau gwenwynig, asbestos a gwydr wedi torri).
  • Amharu ar y safle. Gall fod tystiolaeth a all arwain at olrhain y troseddwyr ac erlyn.
  • Mynd at unrhyw un y gallwch chi ei weld sy'n tipio'n anghyfreithlon.

Rhoi gwybod am dipio anghyfreithlon

Rhowch wybod am dipio anghyfreithlon drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein. Neu ffonio 01443 866533.

Mae gennym ni dîm o swyddogion gorfodi sy'n ymateb i achosion o dipio anghyfreithlon. Byddan nhw'n chwilio am dystiolaeth, yn siarad â thystion ac yn erlyn y troseddwyr.

Mae gan y Cyngor bolisi dim goddefgarwch o ran tipio gwastraff.

Rhowch Wybod Nawr