Rhoi gwybod i ni am fater diogelwch
Rydym yn ymchwilio i faterion diogelwch bwyd ym mwrdeistref sirol Caerffili. Mae’r rhain yn cynnwys eiddo bwyd a chwynion am fwyd. Os yw eich cwyn yn ymwneud â sefydliad bwyd y tu allan i fwrdeistref sirol Caerffili, dylech gysylltu â’r awdurdod lleol perthnasol.
Cyn y byddwch yn rhoi gwybod i ni am y broblem, gallai fod yn fuddiol i chi ddarllen ein dogfennau canllaw cwynion bwyd cyffredin a’r esboniad o ddyddiadau ‘defnyddio erbyn’ a dyddiadau ‘ar ei orau cyn’.
Ni all y labordy brofi bwyd sy’n gysylltiedig ag achosion honedig o wenwyn bwyd, oni fydd y bwyd yn cael ei gasglu’n uniongyrchol gan y busnes bwyd gan swyddog cymwys.
COVID-19 - Oherwydd yr achos parhaus o COVID-19, mae’r Tîm Bwyd ac Iechyd a Diogelwch wedi cyfyngu ei wasanaethau er mwyn gallu ymateb i’r sefyllfa bresennol. Bydd y cyfyngiad o ran gwasanaethau yn golygu y bydd cwynion/ceisiadau am wasanaeth yn cael eu blaenoriaethu a dim ond y rhai yr ydym yn eu hystyried yn risg i iechyd y cyhoedd fydd yn cael eu gweithredu.
Rhoi gwybod i ni am fater bwyd >
Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari
Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili. Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau. Os nad ydych am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym!
Fel arall, cysylltwch â ni dros y ffôn neu e-bost.
Pan fyddwch yn gwneud cwyn dylech:
- Cadw’r bwyd heb ei fwyta dan sylw a’r gwrthrych estron mewn cynhwysydd â chaead arno. Os yw’r bwyd yn ddarfodus neu os yw’n cael ei effeithio gan lwydni, rhowch ef yn y rhewgell neu’r oergell nes y byddwn yn ei gasglu er mwyn atal unrhyw ddirywiad pellach.
- Dylech gadw unrhyw ddeunydd pecynnu a allai fod gennych, oherwydd bydd yn darparu gwybodaeth bwysig yn cynnwys y dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ a chodau swp, sydd eu hangen ar gyfer yr ymchwiliad.
- Pan fydd yn bosibl dylech gadw unrhyw dderbynebau prynu.