Gorchmynion Amddiffyn Mannau Cyhoeddus

Mae Gorchmynion Amddiffyn Mannau Cyhoeddus wedi cael eu cyflwyno fel rhan o'r Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.

Mae Gorchmynion Amddiffyn Mannau Cyhoeddus yn pennu lleoliad lle mae gweithgareddau’n cymryd lle sydd neu a all fod yn niweidiol i ansawdd bywyd y gymuned leol. Mae Gorchmynion Amddiffyn Mannau Cyhoeddus yn gosod amodau neu gyfyngiadau ar bobl sy’n defnyddio’r ardal hwnnw.

Cosb am dorri Gorchmynion Amddiffyn Mannau Cyhoeddus

Bydd unrhyw bersonau a geir yn euog o dorri’r gorchymyn yn agored i ddirwy nid yn uwch na £1,000 ar gollfarn ddiannod.

Yn dibynnu ar yr ymddygiad dan sylw, gallai'r swyddog gorfodi benderfynu y byddai hysbysiad cosb benodedig o £ 75.00 yn gosb fwyaf priodol.

Gall Gorchmynion Amddiffyn Mannau Cyhoeddus gael eu gorfodi gan swyddogion yr heddlu, swyddogion diogelwch cymunedol yr heddlu ac unrhyw swyddogion a ddynodwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Gorchmynion Cyfredol

 

Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (GDMAC) wedi’i drosglwyddwyd o’r Gorchmynion Mannau Cyhoeddus Penodol (GMCP)

Ar 20 Hydref 2017, daeth y Gorchmynion Mannau Cyhoeddus Dynodedig presennol oedd mewn lle ym mwrdeistref sirol Caerffili yn Orchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (GDMAC) yn dilyn cyflwyniad Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014. Digwyddodd y trosglwyddiad hwn yn awtomatig a bydd y Gorchmynion presennol yn para am gyfnod o dair blynedd.

Mae'r amodau canlynol yn berthnasol yn yr ardaloedd a restrir yn y ddolen isod:

Ardaloedd wedi'u gwarchod gan Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus

  1. Peidio ag yfed alcohol nac unrhyw beth y mae'r cwnstabl neu'r person awdurdodedig yn credu yn rhesymol i fod yn alcohol.

  2. I ildio unrhyw beth ym meddiant yr unigolyn hwnnw sydd, neu y mae'r cwnstabl neu'r person awdurdodedig yn credu'n rhesymol iddo fod, yn alcohol neu gynhwysydd ar gyfer alcohol.

Gellir delio â thorri GDMAC trwy roi Hysbysiad Cosb Benodedig o £ 100 gan Heddwas neu Warden Diogelwch Cymunedol i unrhyw un y mae ef neu hi o'r farn ei fod wedi cyflawni unrhyw drosedd o dan y Gorchymyn. Bydd gan berson 14 diwrnod i dalu'r Hysbysiad Cosb Benodedig o £100, neu swm gostyngol o £75 os caiff ei dalu o fewn 7 diwrnod. Bydd methu â thalu'r Hysbysiad Cosb Benodedig yn arwain at erlyniad.

Mae’r arwyddion cyfredol GMCP yn cynghori pobl eu bod mewn ardal ddynodedig yn cael eu diweddaru ar hyn o bryd yn unol â'r ddeddfwriaeth newydd.

Bydd mapiau ardal yn cael eu llwytho i fyny wrth iddynt gael eu paratoi.

Tudalennau Cysylltiedig

Diogelwch cymunedol