Diogelwch tân

Bob blwyddyn, mae diffoddwyr tân yng Nghymru yn delio â thros 2,000 o danau damweiniol yn y cartref.  Gall y rhan fwyaf o bobl newid rhywbeth am eu trefn feunyddiol neu bethau syml o gwmpas y cartref i leihau'r siawns o gael tân damweiniol.  Mae'r rhan fwyaf o bobl yn ddigon ffodus i ddianc yn fyw, ond mae cannoedd o bobl yn dioddef anafiadau ac mae 63 o bobl wedi marw mewn tanau damweiniol mewn tai yng Nghymru dros y tair blynedd ddiwethaf.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru'n cynnig y cyfle i gael gwiriad diogelwch tân AM DDIM yn eich cartref.  Bydd swyddogion tân o'ch gorsaf dân leol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn gwneud y gwiriadau. Mae'r ymweliad yn cymryd tua 30 munud a bydd swyddogion yn darparu a gosod larymau mwg, synwyryddion gwres a larymau carbon monocsid am ddim lle mae risg yn cael ei darganfod (mae larymau ar gyfer pobl sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw hefyd ar gael).

Mae swyddogion yn edrych ar bob cais diogelwch tân a dderbynnir i sicrhau eu bod yn rhoi'r gwasanaeth cywir i chi.  Efallai na fydd angen ymweliad arnoch, ond yn hytrach, rhoddir arweiniad diweddar ar sut i leihau'r risg o danau'n dechrau yn eich cartref a larymau mwg AM DDIM os ydych eu hangen.

 Os ydych chi'n aelod o'r cyhoedd ac yn dymuno archebu gwiriad diogelwch tân, ewch i'r adran cais am ymweliad ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Cysylltwch â ni