Adolygiadau Dynladdiad Domestig (ADD)
Mae Adolygiadau Dynladdiad Domestig (ADD) yn ofynnol yn ôl y gyfraith ac yng Nghaerffili, cyfrifoldeb y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol (PDC) yw hyn.
Diben ADD yw ystyried yr amgylchiadau a arweiniodd at ddynladdiad trais domestig fel y gall cyrff cyhoeddus, sefydliadau cymunedol a gwirfoddol nodi lle gallai ymatebion i'r sefyllfa fod wedi'u gwella.
Nid yw ADD yn ceisio beio, ond mae'n ystyried yr hyn a ddigwyddodd a'r hyn y gallai wedi cael ei wneud yn wahanol. Nid yw ADDau yn disodli ond maen nhw'n ychwanegol at unrhyw gwest neu fath arall o ymholiad i’r dynladdiad.
Unwaith y bydd adolygiadau wedi'u cwblhau a'u cytuno gan y Swyddfa Gartref, cânt eu cyhoeddi a byddan nhw ar gael ar-lein.
Mae ADD yn adolygiad o’r amgylchiadau pan fo marwolaeth person 16 oed neu hŷn wedi, neu’n ymddangos fel petai, wedi deillio o drais, camdriniaeth neu esgeulustod gan:
- berson yr oedden nhw'n perthyn iddo neu yr oedden nhw, neu wedi bod, mewn perthynas bersonol agos ag ef, neu
- aelod o'r un cartref
Diben ADD yw:
- sefydlu pa wersi y mae modd eu dysgu o’r dynladdiad domestig ynghylch y ffordd y mae gweithwyr proffesiynol a sefydliadau lleol yn gweithio’n unigol a gyda’i gilydd i ddiogelu dioddefwyr
- nodi’n glir beth yw’r gwersi hynny o fewn asiantaethau a rhyngddyn nhw, sut ac o fewn pa amserlenni y byddan nhw'n cael eu gweithredu, a beth y disgwylir iddo newid o ganlyniad
- cymhwyso’r gwersi hyn i ymatebion gwasanaethau gan gynnwys newidiadau i lywio polisïau a gweithdrefnau cenedlaethol a lleol fel y bo’n briodol
- atal trais domestig a dynladdiad a gwella ymatebion gwasanaethau ar gyfer yr holl ddioddefwyr trais a cham-drin domestig a’u plant trwy ddatblygu dull amlasiantaethol cydgysylltiedig i sicrhau bod cam-drin domestig yn cael ei nodi ac yn cael ei ymateb iddo’n effeithiol cyn gynted â phosibl
- cyfrannu at well dealltwriaeth o natur trais a cham-drin domestig
- amlygu arfer da
Pan fydd dynladdiad domestig yn digwydd, mae'r heddlu perthnasol yn rhoi gwybod i'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol (PDC) perthnasol yn ysgrifenedig o'r digwyddiad. Y PDC lleol sy'n bennaf gyfrifol am sefydlu adolygiad gan eu bod mewn sefyllfa ddelfrydol i gychwyn ADD a phanel adolygu.