Adolygiadau Dynladdiad Domestig (ADD)

Mae Adolygiadau Dynladdiad Domestig (ADD) yn ofynnol yn ôl y gyfraith ac yng Nghaerffili, cyfrifoldeb y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol (PDC) yw hyn.

Diben ADD yw ystyried yr amgylchiadau a arweiniodd at ddynladdiad trais domestig fel y gall cyrff cyhoeddus, sefydliadau cymunedol a gwirfoddol nodi lle gallai ymatebion i'r sefyllfa fod wedi'u gwella.

Nid yw ADD yn ceisio beio, ond mae'n ystyried yr hyn a ddigwyddodd a'r hyn y gallai wedi cael ei wneud yn wahanol. Nid yw ADDau yn disodli ond maen nhw'n ychwanegol at unrhyw gwest neu fath arall o ymholiad i’r dynladdiad.

Unwaith y bydd adolygiadau wedi'u cwblhau a'u cytuno gan y Swyddfa Gartref, cânt eu cyhoeddi a byddan nhw ar gael ar-lein.

Mae ADD yn adolygiad o’r amgylchiadau pan fo marwolaeth person 16 oed neu hŷn wedi, neu’n ymddangos fel petai, wedi deillio o drais, camdriniaeth neu esgeulustod gan:

  • berson yr oedden nhw'n perthyn iddo neu yr oedden nhw, neu wedi bod, mewn perthynas bersonol agos ag ef, neu
  • aelod o'r un cartref

Diben ADD yw:

  • sefydlu pa wersi y mae modd eu dysgu o’r dynladdiad domestig ynghylch y ffordd y mae gweithwyr proffesiynol a sefydliadau lleol yn gweithio’n unigol a gyda’i gilydd i ddiogelu dioddefwyr
  • nodi’n glir beth yw’r gwersi hynny o fewn asiantaethau a rhyngddyn nhw, sut ac o fewn pa amserlenni y byddan nhw'n cael eu gweithredu, a beth y disgwylir iddo newid o ganlyniad
  • cymhwyso’r gwersi hyn i ymatebion gwasanaethau gan gynnwys newidiadau i lywio polisïau a gweithdrefnau cenedlaethol a lleol fel y bo’n briodol
  • atal trais domestig a dynladdiad a gwella ymatebion gwasanaethau ar gyfer yr holl ddioddefwyr trais a cham-drin domestig a’u plant trwy ddatblygu dull amlasiantaethol cydgysylltiedig i sicrhau bod cam-drin domestig yn cael ei nodi ac yn cael ei ymateb iddo’n effeithiol cyn gynted â phosibl
  • cyfrannu at well dealltwriaeth o natur trais a cham-drin domestig
  • amlygu arfer da

Pan fydd dynladdiad domestig yn digwydd, mae'r heddlu perthnasol yn rhoi gwybod i'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol (PDC) perthnasol yn ysgrifenedig o'r digwyddiad. Y PDC lleol sy'n bennaf gyfrifol am sefydlu adolygiad gan eu bod mewn sefyllfa ddelfrydol i gychwyn ADD a phanel adolygu.