Coroni Ei Fawrhydi’r Brenin

bunting

Bydd dathliadau ar gyfer Coroni’r Brenin yn cael eu cynnal rhwng  dydd Sadwrn 6ed Mai 2023 a dydd Llun 8fed Mai 2023.  

Mae mwy o wybodaeth  am y Coroni ar gael ar y  wefan Frenhinol.

Mae gwybodaeth bellach am y Jiwbilî ar gael ar wefan y Llywodraeth. Ar hyn o bryd, does dim cynigion gan y Llywodraeth Ganolog bod y sawl sydd wedi â thrwydded i werthu alcohol yn mynd i weld eu trwyddedi yn cael eu hymestyn.  

Yn ystod y seremoni, bydd Ei Fawrhydi y Brenin Charles III, yn cael ei goroni ochr yn ochr â'i Mawrhydi'r Frenhines Gydweddog.

FFURFLEN GAIS

Partïon Stryd

Mae partïon stryd yn rhan draddodiadol o fywyd cymunedol; maent yn ffordd syml o ddod i ‘nabod cymdogion a chwrdd ag aelodau o’r gymuned. Efallai eich bod am gynnal parti stryd er mwyn dathlu Coroni’r Brenin. Nid oes angen trwydded ar gyfer y rhan fwyaf o bartïon stryd. Ond efallai bod angen i chi gael trwydded briodol a chaniatâd os ydych am werthu  alcohol, chwarae cerddoriaeth fyw sydd wedi ei recordio, yn cynnal digwyddiad ar briffordd sydd yn golygu bod angen cau un heol neu fwy.  Mae cyngor pellach ar drefnu partïon stryd ar gael ar y wefan Eden Communities Projects.

Cyllid gan y Loteri Genedlaethol

Mae cyllid gan y Loteri Genedlaethol ar gael i helpu cymunedau ar draws y sir i ddod ynghyd er mwyn dathlu Coroni’r Brenin. Mae mwy o wybodaeth am y cyllid gwahanol sydd ar gael yma.

Emblem y Coroni

Mae Emblem swyddogol y Coroni ar gael i’w ddefnyddio ar gyfer y digwyddiadau sydd yn ymwneud gyda’r dathliadau’r Coroni, gan gynnwys digwyddiadau cymunedol a chenedlaethol. Mae modd ei lawrlwytho am ddim o’r wefan Frenhinol, lle y mae yna ganllawiau manwl hefyd ar gael ar sut

Trwyddedau

Os ydych chi’n bwriadu darparu alcohol am ddim yn eich digwyddiad o dan amgylchiadau arferol, does dim angen trwydded arnoch chi.  Os ydych chi am werthu alcohol, bydd angen  Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro (HDDD) arnoch chi.  Dylech chi ganiatáu o leiaf deg diwrnod gwaith cyn y digwyddiad. 

Bydd angen HDDD os ydych chi’n bwriadu:

  • Chware cerddoriaeth fyw sydd wedi’ii recordio at ddibenion adloniant 
  • Cynnal perfformiadau byw, ffilmiau neu ddawnsio
  • Gwerthu alcohol.
  • Gwerthu bwyd poeth a diod rhwng 11pm a 5am.

Os ydych chi’n bwriadu gwerthu tocynnau tombola neu docynnau raffl ar y diwrnod, ac nad yw'r gwobrau werth dros £500 i gyd, nid yw’r rheoliadau gamblo yn berthnasol. Os yw tocynnau yn cael eu gwerthu o flaen llaw, bydd angen i chi gofrestru gyda’r Adran Trwyddedu  fel Loteri Cymdeithas Fach.

Am gyngor pellach, cysylltwch â’r Adran Trwyddedu ar 01443 866750 neu anfon e-bost i trwyddedu@caerffili.gov.uk.

Cau Ffyrdd

Er mwyn cynnal parti stryd ar neu’n agos at briffordd, rhaid i chi ofyn a sicrhau caniatâd gan y Cyngor er mwyn medru cau’r stryd yn gyfreithlon i unrhyw draffig. Meddyliwch am yr hyn yr hoffech chi gyflawni a chyflwyno’r ffurflen gais erbyn 7 Ebrill 2023 i’r Adran Traffig.

Am gyngor pellach, cysylltwch â’r Adran Trwyddedu ar 01443 866750 neu anfon e-bost i trwyddedu@caerffili.gov.uk.

Diogelwch Bwyd

Mae'n hanfodol trin bwyd yn ddiogel mewn partïon stryd, mae cyngor pellach ar gael ar wefan y Llywodraeth. Gofynnwch i bawb ddod â bwyd i'w rannu ar adegau penodol fel y gallwch chi gyd fwyta gyda'ch gilydd. Os ydych chi'n coginio gan ddefnyddio barbeciw, peidiwch byth â'i adael heb gyda neb yn ei wylio a chau’r ardal o’i gwmpas er mwyn cadw plant ac anifeiliaid anwes i ffwrdd.

Am gyngor pellach, cysylltwch gyda’r Adran Iechyd Amgylcheddol ar 01443 811303 neu e-bostio: diogelwchiechydbwyd@caerffili.gov.uk.

Diogelwch yn y Digwyddiadau

Ambell beth y gallech chi eu hystyried ar gyfer eich digwyddiad yw cynnal asesiad risg ar gyfer eich digwyddiad a mesurau atal Covid. I gael cyngor pellach ar drefnu digwyddiad ewch i dudalen Cynllunio Digwyddiad ar wefan CBS Caerffili. Mae terfysgaeth yn fygythiad go iawn ac, yn anffodus, mae’n fwyfwy anrhagweladwy, gyda mannau cyhoeddus ac ardaloedd prysur yn darged deniadol i derfysgwyr. Hoffem i chi ystyried yr hyn y gallwch ‘chi’ ei wneud er mwyn lleihau’r risg a lliniaru effaith y fath ymosodiad. Rydyn ni’n argymell, felly, eich bod yn cwblhau’r ACT Awareness e-Learning ar wrth-derfysgaeth.