Gwirfoddolwyr gwerthiannau i bobl dan oed
Mae’r gwasanaeth Safonau Masnach angen gwirfoddolwyr ifanc yn rheolaidd i gynorthwyo â’n rhaglen bryniannau prawf cynhyrchion â chyfyngiad oed fel sigaréts, alcohol a thân gwyllt.
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sydd tua 13-16 oed (dim hŷn nag 16 blwydd a 6 mis). Ni ddylai gwirfoddolwyr fod llai na 18 mis yn iau na’r cyfyngiad oed ar gyfer unrhyw gynnyrch penodol ac ni ddylent edrych yn hŷn na’r cyfyngiad oed dan sylw.
Rhoddir hyfforddiant i’r gwirfoddolwyr ar beth i’w ddweud a’i wneud yn yr ymarferiadau a chânt eu goruchwylio gan swyddog bob amser.
Os ydych chi’n adnabod unrhyw un a hoffai wirfoddoli, cysylltwch â ni.