Trosedd ar stepen y drws a masnachwyr twyllodrus

Mae’r tactegau mwyaf cyffredin a ddefnyddir gan fasnachwyr twyllodrus wrth droseddu ar stepen y drws yn cynnwys: -

  • Curo ar eich drws a dweud eu bod wedi sylwi ar broblem gyda’ch cartref y gallant ei thrwsio
  • Dweud bod ganddynt ddeunyddiau dros ben o waith arall y gallant eu defnyddio ar eich cartref, fel Tarmac ar gyfer dreif
  • Gwerthu taer – aros yn eich cartref neu wrth eich drws hyd nes eich bod yn cytuno iddynt wneud y gwaith. Nid masnachwr twyllodrus mo pob galwr diwahoddiad, ond gallai cytuno i gael gwneud gwaith ar eich cartref gan rywun sy’n curo ar eich drws achosi ichi ddioddef trosedd ar stepen y drws

Mae’n bosibl y bydd masnachwyr twyllodrus: -

  • Yn codi prisiau afresymol
  • Yn cymryd blaendal ac yn peidio â dod yn ôl i wneud y gwaith
  • Yn gwneud gwaith gwael
  • Yn peidio â rhoi gwybodaeth ichi am eich hawl i ganslo gwaith os ydych chi’n newid eich meddwl
  • Yn mynd â defnyddwyr i fanciau neu gymdeithasau adeiladu i dynnu arian i dalu am waith
  • Yn gwrthod datrys problemau
  • Yn peidio â chynnig unrhyw warantau neu warantiadau

Beth i’w wneud os bydd masnachwyr stepen y drws yn galw

Nid yw pob masnachwr yn anonest, ond mae yna bethau y dylech eu gwneud er mwyn sicrhau na chewch eich twyllo gan fasnachwyr: -

  • Gwiriwch pwy ydynt a defnyddiwch dwll sbïo neu gadwyn drws os oes gennych un
  • Peidiwch byth â llofnodi contract nes eich bod wedi chwilio am y fargen orau yn gyntaf
  • Gofynnwch am fwy o amser i ystyried y cynnig a chael dyfynbris arall. Bydd gwerthwr go iawn yn deall hyn ac ni fydd yn rhoi pwysau arnoch i lofnodi’r diwrnod hwnnw
  • Mynnwch gyngor gan aelodau o’ch teulu, cyfeillion neu gymdogion cyn cytuno i gael gwneud unrhyw waith
  • Os oes gennych unrhyw amheuon neu bryderon, gofynnwch i’r masnachwr adael, caewch y drws a ffoniwch yr heddlu neu cysylltwch  â’r gwasanaeth safonau masnach
  • Peidiwch â gadael i unrhyw alwyr neu weithwyr fynd â chi i’r banc, cymdeithas adeiladu neu Swyddfa’r Post
  • Os ydych chi’n llofnodi contract ar ôl ‘galwad ddiwahoddiad’ gan gwmni (mae hyn yn cynnwys galwad ffôn gan y busnes yn gofyn am apwyntiad i ddod i’ch gweld) ac os yw’r nwyddau neu wasanaethau yr ydych yn eu prynu’n costio mwy na £35, fel arfer mae gennych saith diwrnod i newid eich meddwl a chanslo’r contract.
  • Rhowch wybod am drosedd ar stepen y drws neu fasnachwr twyllodrus

Os yw rhywun wedi galw yn eich cartref heb wahoddiad ac wedi gwneud gwaith rydych chi’n anfodlon arno neu’n poeni amdano, neu os ydych eisiau rhoi gwybod am ddigwyddiad ar ran cyfaill, cymydog neu berthynas, rhowch wybod inni amdano.

Dod o hyd i grefftwr dibynadwy

Angen gwneud gwaith ar eich cartref neu’ch gardd? Chwilio am grefftwr y gallwch ymddiried ynddo?

I ddod o hyd i grefftwr dibynadwy, edrychwch ar wefan TrustMark.

Ardaloedd dim galw diwahoddiad

Nod ‘ardaloedd dim galw diwahoddiad’ yw lleihau nifer yr achosion o droseddau ar stepen y drws trwy nodi ardal lle nad oes croeso i bobl sy’n galw wrth y drws.

Mae angen tri maen prawf ar ardaloedd cyn y gellir eu sefydlu:

  • Hanes o drosedd ar stepen y drws neu fwrgleriaeth drwy dynnu sylw
  • Poblogaeth agored i niwed
  • Ardal ddaearyddol ddiffiniedig

Ardaloedd dim galw heb wahoddiad (PDF)

Taflenni cyngor

Age concern – Galwyr ffug (PDF)
Casgliadau Elusen – Rhowch gyda gofal (PDF)
Poster cymydog enwebedig (PDF)
Cysylltwch â ni