Dewis crefftwr dibynadwy
Ydych chi ar fin cyflogi crefftwr i weithio yn eich cartref neu’ch gardd?
Pa un a yw’r gwaith yn fawr neu’n fach, gall dewis crefftwr dibynadwy i weithio ar eich cartref fod yn dipyn o her i’r rhan fwyaf o ddeiliaid tai.
Mae Cynllun TrustMark Safonau Masnach De-ddwyrain Cymru yn eich galluogi i ddod o hyd i grefftwr i wneud gwaith trwsio, cynnal a chadw neu wella ar eich eiddo sydd wedi’i gymeradwyo o dan safon TrustMark sy’n cael ei gefnogi gan y Llywodraeth.
Wrth ddewis crefftwr TrustMark gallwch fod yn sicr eich bod yn gwneud eich gorau i wneud y dewis iawn.
Mae crefftwyr cymeradwy’n cael eu fetio fel a ganlyn:
- Eu gwirio gan y gwasanaeth safonau masnach i sicrhau eu bod yn ddibynadwy a bod ganddynt enw da
- Mae sgiliau technegol pob cwmni wedi cael eu gwirio’n annibynnol trwy arolygiadau ar y safle
- Mae ansawdd eu gwaith, eu harferion masnach a boddhad eu cwsmeriaid yn cael eu monitro
- Gwiriadau o gofnodion masnachu a statws ariannol cwmnïau
- Gall cwmnïau gynnig gwarantiad wedi’i gefnogi ag yswiriant
- Gweithdrefn gwyno glir a hawdd ei defnyddio os ydych ei hangen