Sut alla i gael cymorth?

Gallwch chi ddod o hyd i restr o'r prosiectau sydd ar gael yn yr adran Prosiectau Teuluoedd yn Gyntaf.  

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol a gwybodaeth ychwanegol ar Raglen Teuluoedd yn Gyntaf, cysylltwch â Thîm Cymorth Canolog Teuluoedd yn Gyntaf.

Ceisio am Gymorth

Os oes angen cymorth arnoch chi gan un o'n prosiectau, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth Caerffili ar:

Fel arall, gallwch chi gysylltu â'r prosiectau yn uniongyrchol trwy'r wybodaeth gyswllt sydd wedi'i darparu.

Gweithwyr proffesiynol

Os ydych chi'n weithiwr proffesiynol sy'n dymuno atgyfeirio teulu at gymorth, ewch i'r dudalen Fframwaith Asesu'r Teulu ar y Cyd (JAFF) cyn cwblhau atgyfeiriad.

Mae gan Teuluoedd yn Gyntaf Caerffili dudalen Facebook hefyd. Rydyn ni'n rhannu gwybodaeth yn rheolaidd am ein prosiectau ac unrhyw ddigwyddiadau sydd ar y gweill ledled y Fwrdeistref Sirol. Gallwch chi hefyd gysylltu â ni drwy neges Facebook.

Mae rhagor o wybodaeth am Teuluoedd yn Gyntaf ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Cysylltwch â ni