Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf Caerffili

Beth yw Teuluoedd yn Gyntaf?

Nod Teuluoedd yn Gyntaf yw gwella bywydau plant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghaerffili. Ei nod yw cynorthwyo teuluoedd cyfan, nid unigolion yn unig.

Rydyn ni'n cynorthwyo teuluoedd yn gynnar i ddarparu cymorth, cyngor ac arweiniad. Rydyn ni'n gweithio gyda theuluoedd sydd â phlentyn neu blant o 0 i 25 oed.

Rydyn ni'n adeiladu ar gryfderau’r teulu ac yn dangos ffyrdd newydd iddyn nhw o wneud pethau. Mae hyn yn eu helpu nhw i deimlo'n fwy hyderus wrth ymdrin ag anawsterau y gallen nhw eu hwynebu yn y dyfodol.

Sut gall Teuluoedd yn Gyntaf eich helpu chi?

Mae magu teulu yn anodd, ac mae angen help a chymorth arnom ni i gyd rywbryd. Yn aml, gall gofyn am help yn gynnar atal pethau rhag gwaethygu neu gyrraedd pwynt o argyfwng. 

Gallwn ni helpu gydag amrywiaeth o anghenion cymorth megis:

  • Cymorth wedi'i gydlynu gan y Tîm o Amgylch y Teulu.
  • Mynediad at ddarpariaeth gymunedol (i blant, pobl ifanc ac oedolion)
  • Gwasanaethau eiriolaeth
  • Ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Gwasanaethau cam-drin domestig
  • Blynyddoedd Cynnar (0-7 oed): Beichiogrwydd, lleferydd ac iaith, ymddygiad a datblygiad plant
  • Ymgysylltu â theuluoedd
  • Cymorth ariannol
  • Cymorth i rieni
  • Cymorth lles
  • Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc

Ewch i'r dudalen Prosiectau Teuluoedd yn Gyntaf i gael rhagor o fanylion am ein prosiectau.

Os oes angen cymorth, cyngor neu arweiniad arnoch chi a'ch teulu, mae'n bosibl y gall rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf helpu.

Gallwch chi gysylltu â ni drwy ffonio ein gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth ar 0808 100 1727 neu e-bostio CysylltuAcAtgyfeirio@caerffili.gov.uk

Cysylltwch â ni