Seremonïau enwi
Mae seremoni enwi sifil yn ffordd anghrefyddol o ddathlu genedigaeth eich plentyn a'i groesawu i'r teulu a'r gymuned ehangach.
Mae'n gyfle i ddatgan, gerbron teulu a ffrindiau, eich bod yn addo bod yn rhiant da ac i'ch ffrindiau neu berthnasau gadarnhau'u perthynas arbennig â'ch plentyn.
Mae'r seremoni hefyd yn ffordd ddelfrydol o greu bondio teuluol i blant mabwysiedig neu lysblant, a'u croesawu i'w teulu estynedig newydd.
Mae gan yr holl seremonïau enwi chwe adran hanfodol:
- Cyflwyniad a chroeso
- Darlleniad(au)
- Enwi'r plentyn (neu blant)
- Addewidion rhieni
- Addewidion gan oedolion cefnogol
- Geiriau i orffen
Gallwch ddewis i ychwanegu unrhyw un o'r adrannau ychwanegol canlynol:
- Rhesymau dros yr enwau
- Gobeithion ar gyfer dyfodol y plentyn
- Llwon rhieni i'w gilydd
- Addewidion teidiau a neiniau
- Gwesteion absennol
- Darlleniadau pellach
- Cyflwyno rhodd i'r plentyn
Ffioedd, costau a lleoliadau
Gallwch gynnal eich seremoni naill ai yn Nhŷ Penallta neu mewn nifer o leoliadau a gymeradwywyd ar draws y fwrdeistref sirol. Mae ffioedd a chostau yn amrywio yn dibynnu ar bryd a ble rydych yn dymuno cynnal y seremoni.
I gael rhagor o wybodaeth am seremonïau enwi, cysylltwch â ni.