Seremonïau enwi

Mae seremoni enwi sifil yn ffordd anghrefyddol o ddathlu genedigaeth eich plentyn a'i groesawu i'r teulu a'r gymuned ehangach.

Mae'n gyfle i ddatgan, gerbron teulu a ffrindiau, eich bod yn addo bod yn rhiant da ac i'ch ffrindiau neu berthnasau gadarnhau'u perthynas arbennig â'ch plentyn.

Mae'r seremoni hefyd yn ffordd ddelfrydol o greu bondio teuluol i blant mabwysiedig neu lysblant, a'u croesawu i'w teulu estynedig newydd.

Mae gan yr holl seremonïau enwi chwe adran hanfodol:

  • Cyflwyniad a chroeso
  • Darlleniad(au)
  • Enwi'r plentyn (neu blant)
  • Addewidion rhieni
  • Addewidion gan oedolion cefnogol
  • Geiriau i orffen

Gallwch ddewis i ychwanegu unrhyw un o'r adrannau ychwanegol canlynol:

  • Rhesymau dros yr enwau
  • Gobeithion ar gyfer dyfodol y plentyn
  • Llwon rhieni i'w ​​gilydd
  • Addewidion teidiau a neiniau
  • Gwesteion absennol
  • Darlleniadau pellach
  • Cyflwyno rhodd i'r plentyn

Ffioedd, costau a lleoliadau

Gallwch gynnal eich seremoni naill ai yn Nhŷ Penallta neu mewn nifer o leoliadau a gymeradwywyd ar draws y fwrdeistref sirol. Mae ffioedd a chostau yn amrywio yn dibynnu ar bryd a ble rydych yn dymuno cynnal y seremoni.

I gael rhagor o wybodaeth am seremonïau enwi, cysylltwch â ni.

Privacy Notice

Hysbysiad preifatrwydd gwasanaeth cofrestru (PDF)

Cysylltwch â ni