Seremonïau yn Nhŷ Penallta
Mae gennym ddwy ystafell yn Nhŷ Penallta lle gallwn gynnal seremonïau priodasol neu bartneriaethau sifil: Craig Penallta a’r Swyddfa Gofrestru Statudol.
Craig Penallta
Mae'r ystafell wedi'i lleoli ar y llawr gwaelod ac mae ganddi fynediad hollol hygyrch i bramiau a phobl ag anableddau.
Mae’r ystafell seremoni wedi’i dodrefnu yn safonol iawn, sy’n gwneud yn yn lleoliad delfrydol i’ch seremoni.
Swyddfa Gofrestru Statudol
Ystafell fechan ond un ddeniadol yw hon. Yma gall cyplau briodi neu ffurfio partneriaethau sifil ym mhresenoldeb dau dyst.
Talu am seremonïau
Yn ychwanegol at gost rhoi rhybudd, mae’n rhaid talu hefyd am seremonïau a gynhelir yn Nhŷ Penallta. Am fanylion ar y ffioedd, ewch i'r dudalen we taliadau a ffioedd ar gyfer priodasau a phartneriaethau sifil.
Gwneud eich seremoni yn fwy personol
Gallwch lunio eich seremoni yn ôl eich dymuniad. Gallwch gynnwys darlleniad, neu ddarn o farddoniaeth neu ychwanegu eich addunedau ac addewidion personol i’ch gilydd.
Yng Nghraig Penallta mae modd cerdded drwy ganol yr ystafell fel y gwneir mewn priodasau traddodiadol pe mynnech a gallwch ychwanegu hoff ddarn o gerddoriaeth. Mae modd mynd allan hefyd mewn modd ffurfiol i gloi'r seremoni a hynny i gyfeiliant cerddoriaeth neu rhywbeth sy’n arbennig i’r cwpl. Gallwch ddewis cerddoriaeth o blith y rhestrau sydd gennym i’w gynnig, neu gallwch ddarparu eich cerddoriaeth eich hun.
Ni ddylai unrhyw newidiadau gynnwys unrhyw elfennau crefyddol a bydd angen i’n cofrestryddion eu cymeradwyo cyn y diwrnod.
Ewch i'n tudalen “Eich diwrnod chi, eich ffordd chi” i gael ragor o wybodaeth.
Recordio a thynnu lluniau
Bydd digon o gyfleoedd ar gael i dynnu lluniau yn ystod ac ar ôl y seremoni. Mae yna leoliadau yn ystafell y seremoni ac o’i chwmpas lle gellir tynnu lluniau, gyda gardd goediog braf y gellir ei defnyddio i dynnu lluniau yng nghefn Tŷ Penallta.
Caniateir ffilmio'r seremoni hefyd.
Gweld lluniau o'r ystafell seremoni a'r tiroedd ar Flickr
Lleoliadau eraill a gymeradwyir
Mae yno leoliadau eraill a gymeradwyir ar gyfer priodasau a phartneriaeth sifil drwy’r fwrdeistref sirol. Ewch i’n tudalen o leoliadau a gymeradwyir i gael manylion.