Atgyfeirio at y Crwner

Referral to the Coroner

Beth sy’n digwydd os caiff y farwolaeth ei hatgyfeirio at y crwner?

Os caiff marwolaeth ei hatgyfeirio at y crwner gan feddyg, cofrestrydd neu unigolyn arall, bydd y crwner yn penderfynu ar y weithdrefn i'w dilyn.

Post-mortem

Ni fydd pob marwolaeth sy'n cael ei hatgyfeirio at y crwner yn arwain at archwiliad post-mortem.

Mewn rhai achosion, bydd y crwner yn gofyn i feddyg gyhoeddi Tystysgrif Feddygol Achos Marwolaeth.

Bydd y crwner hefyd yn anfon ffurflen at y cofrestrydd i ganiatáu i’r cofrestru fynd yn ei flaen. Bydd y ffurflen yn nodi na fydd ymchwiliad pellach a bod modd cofrestru'r farwolaeth heb bost-mortem.

Os bydd y crwner yn gorchymyn cynnal post-mortem, mae'n rhaid i ganlyniadau'r post-mortem hwnnw fod yn hysbys cyn bod modd cofrestru marwolaeth.

Unwaith y bydd y crwner yn fodlon nad oes angen Cwest ar ôl archwiliad post-mortem, bydd yn rhoi gwybod i'r cofrestrydd a theulu'r ymadawedig am y penderfyniad.

Bydd tystysgrif yn nodi achos y farwolaeth yn cael ei hanfon at y cofrestrydd ar ôl cwblhau archwiliadau’r crwner. Gallwch chi yna barhau a chofrestru’r farwolaeth.

Cwestau

Mewn nifer fach o achosion – pan fydd achos marwolaeth yn aneglur, yn sydyn neu’n amheus – bydd oedi wrth gofrestru'r farwolaeth oherwydd efallai y bydd cwest yn cael ei gynnal.

Mae gan y crwner ddyletswydd i ymchwilio i farwolaethau a adroddir wrtho sy'n:

  • Ymddangos i fod yn ganlyniad trais neu esgeulustod
  • Annaturiol
  • Sydyn heb achos hysbys
  • Digwydd mewn gwarchodaeth gyfreithlon

Bydd y crwner yn cadw cyfrinachedd cyhyd â bo’n bosibl, ond dylech chi gofio bod y system yn seiliedig ar wrandawiadau llys cyhoeddus.

Os ydych chi’n gofyn, bydd y crwner yn esbonio’r rhesymau dros y gweithdrefnau sydd wedi'u mabwysiadu mewn achosion penodol cyhyd â bod y crwner yn fodlon bod gan unigolyn ddiddordeb  priodol a’r hawl i wybod.

Nid treial yw cwest. Mae’n ymchwiliad i gadarnhau pwy oedd yr ymadawedig a sut, pryd a ble bu iddo farw.

Ar ôl y farwolaeth, os bydd cwest yn cael ei gynnal neu os bydd y crwner yn aros am ganlyniadau a allai gymryd peth amser, bydd y crwner yn cyhoeddi tystysgrif marwolaeth dros dro i alluogi trefnu’r ystad.

Wrth gwblhau’r cwest, bydd esboniad yn cael ei roi i'r perthnasau agosaf ynglŷn â sut, ble a  phryd mae modd cael copi o’r dystysgrif marwolaeth.

Nid oes angen i unrhyw un fod yn bresennol er mwyn cofrestru marwolaeth yn dilyn cwest.

Cysylltwch â ni
  • Cyfeiriad E-bost
  • Ffôn
  • Cyfeiriad