Profeb ac eiddo (yr ystad)

Probate, property and possessions

Pan fydd rhywun yn marw, mae’n rhaid i rywun osod trefn ar ei ystad.

Cynrychiolydd Personol, Gweithredwr, Gweinyddwr

Gelwir yr unigolyn hwn yn gynrychiolydd personol neu'n weithredwr os ydyw wedi ei enwi felly yn yr ewyllys, neu’n weinyddwr os na chafodd gweithredwr ei enwi neu os nad oes ewyllys).

Mae’n bwysig darganfod a adawodd yr ymadawedig ewyllys ac, os felly, pwy yw’r  gweithredwr.

Bydd yr ewyllys yn dweud yr hyn a ddylai ddigwydd i arian ac eiddo’r ymadawedig (a elwir yn ystad).

Mae’r cynrychiolydd personol yn gyfrifol am dalu holl ddyledion, trethi a chostau’r ymadawedig, gan gynnwys costau angladd.

Maen nhw'n gwneud y taliadau o’r ystad, nid o’i incwm neu gynilon personol.

Dim ond pan fydd y dyletswyddau hyn wedi’u cwblhau y gall y cynrychiolydd personol rannu gweddill yr ystad i’r bobl sy’n gymwys ar ei gyfer.

Ewyllysion, Grant Profiant, Llythyrau Gweinyddu

Os ydych chi’n gynrychiolydd personol, efallai y bydd angen i chi wneud cais am brofeb.

Bydd y Swyddfa Profiant yn rhoi 'Grant Profiant' i chi os gadawodd yr ymadawedig ewyllys, neu’n rhoi 'llythyrau gweinyddu' os nad oes ewyllys.

Os bydd gennych chi unrhyw anhawster wrth ymdrin ag ystad yr ymadawedig neu warchodaeth ei blant, dylech chi gael cyngor gan gyfreithiwr neu Gyngor ar Bopeth cyn gynted â phosib.

Efallai y bydd gennych chi eisoes gyfreithiwr mae’ch teulu chi yn ei ddefnyddio. Os na, gofynnwch i ffrindiau neu deulu. Efallai y byddan nhw'n gallu argymell un. Pan fyddwch chi'n cysylltu â nhw, cofiwch ofyn am ffïoedd a chostau.

Yr hyn fydd yn rhaid i chi wneud nesaf

Rhoi gwybod i sefydliadau

Pan fyddwch chi'n trefnu materion rhywun sydd wedi marw, bydd angen i chi gysylltu â nifer fawr o sefydliadau.

Mae gan bobl amgylchiadau gwahanol a gallai’r sefydliadau mae’n rhaid i chi ymdrin â nhw amrywio.

Rydyn ni wedi rhestru rhai o’r prif sefydliadau y bydd yn rhaid i chi gysylltu â nhw.

Noder: Os ydych chi’n defnyddio’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith gyda'r cofrestrydd, gall rhai o’r hysbysiadau hyn gael eu gwneud ar eich rhan (Gweler adran Dywedwch Wrthym Unwaith).  Bydd y cofrestrydd yn rhoi cyngor ar hyn.

Pensiynau a Budd-daliadau - Yr Adran Gwaith a Phensiynau i sicrhau y caiff unrhyw bensiwn y wladwriaeth ei stopio. Mae modd rhoi gwybod i'r Adran Gwaith a Phensiynau drwy'r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith.

Cyflogwr neu ddarparwr pensiwn galwedigaethol presennol yr ymadawedig oherwydd gallan nhw ddweud a oes modd trosglwyddo pensiwn galwedigaethol yr ymadawedig i aelod arall o’r teulu neu bartner sifil sy’n fyw.

Mae modd hysbysu rhai darparwyr pensiwn llywodraeth trwy'r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith, neu mae modd i gofrestryddion wneud hynny.

Darparwr pensiwn personol yr ymadawedig, os oedd polisi ar waith.

Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, os oes taliadau credydau treth yn cael eu talu (Credydau Treth Gwaith neu Gredydau Treth Plant). Mae modd rhoi gwybod i Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi trwy'r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith.

Tai a Biliau Aelwyd

Gofynnwch i’r Swyddfa Bost ailgyfeirio post yr ymadawedig, neu siarad â’r Cofrestrydd ynghylch defnyddio’r Gofrestr Profedigaeth i atal unrhyw bost sothach neu bost uniongyrchol.

Mae’r gyfraith yn datgan bod yn rhaid i’r cofrestrydd sy’n cofrestru’r farwolaeth ddweud wrth Adran Treth y Cyngor am farwolaeth unigolyn. Fodd bynnag, efallai y byddwch chi'n dymuno cysylltu â nhw’n uniongyrchol i drafod unrhyw daliadau, ad-daliadau neu ostyngiad mewn costau Treth y Cyngor.

Gan ddibynnu ar amgylchiadau’r ymadawedig, efallai y bydd angen i chi siarad ag adran tai’r Cyngor, cymdeithas tai, cwmni morgais neu landlord preifat. Mae modd rhoi gwybod i adran tai'r Cyngor trwy wasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith.

Hysbysu darparwyr nwy, trydan, dŵr a llinell ffôn yr ymadawedig neu ganslo unrhyw dderbyniad o olew gwresogi.

Rhoi gwybod i’r cwmni yswiriant sy’n darparu yswiriant yr aelwyd. 

Cludiant a Theithio

Hysbysu'r cwmni yswiriant car. Sylwer, na fydd unrhyw un sy’n yrrwr a enwyd ar yswiriant car yr ymadawedig wedi ei yswirio i yrru’r cerbyd mwyach. Mae hyn oherwydd nad yw’r unigolyn a brynodd yr yswiriant yn fyw i roi caniatâd i rywun arall yrru’r car.

Dychwelyd trwydded yrru’r ymadawedig i’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) Mae modd rhoi gwybod am hyn trwy wasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith.

Dychwelyd dogfennau cofrestru car yr ymadawedig i’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) i alluogi cofnodi newid perchennog. Mae modd rhoi gwybod am hyn trwy wasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith.

Canslo neu ddychwelyd unrhyw gardiau teithio neu docynnau tymor. Hawlio unrhyw ad-daliadau sy’n ddyledus.

Mae modd rhoi gwybod am y Cerdyn Teithio Rhatach sydd wedi'i roi gan Trafnidiaeth Cymru trwy wasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith.

Dychwelyd pasbort yr ymadawedig i Swyddfa Basbort Ei Fawrhydi. Mae modd rhoi gwybod am hyn trwy wasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith.

Rhoi gwybod i'r awdurdod lleol a oes bathodyn glas (ar gyfer parcio i'r anabl). Mae modd gwneud hyn trwy wasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith.

Eitemau Personol

Dychwelyd unrhyw lyfrau llyfrgell a chanslo aelodaeth. Mae modd rhoi gwybod i'r gwasanaeth llyfrgell lleol trwy wasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith.

Anfon unrhyw gardiau aelodaeth yn ôl at glybiau neu gymdeithasau a hawlio unrhyw ad-daliadau sy'n ddyledus.

Cysylltwch â ni
  • Cyfeiriad E-bost
  • Ffôn
  • Cyfeiriad