Trefnu Angladd
Costau
Mae angladdau yn gallu bod yn ddrud, felly, cofiwch wirio o ble y bydd yr arian yn dod ar gyfer yr angladd cyn gwneud unrhyw drefniadau.
Efallai bod gan yr ymadawedig gynllun angladd rhagdaledig.
Fodd bynnag, os nad oes gan yr ymadawedig ddigon o arian yn ei ystâd i dalu am gost yr angladd, bydd yn rhaid i’r sawl sy’n trefnu’r angladd dalu.
Os ydych chi'n dewis defnyddio gwasanaethau trefnydd angladdau, dylech chi gael mwy nag un dyfynbris i gymharu costau a gwasanaethau.
Bydd “angladd syml sylfaenol” yn cynnwys arch, hers ac un car. Ni fydd yn cynnwys pethau fel ffioedd eglwys neu amlosgfa, blodau na hysbysiadau papur newydd. Cofiwch wirio pryd y bydd yn rhaid talu'r bil.
Dewisiadau
Mae'n bosibl trefnu angladd gyda neu heb gymorth trefnydd angladdau ac mae'r ymadawedig yn gallu cael ei gladdu neu ei amlosgi.
Mewn rhai achosion, efallai y bydd yr angladd wedi'i gynllunio ymlaen llaw.
Mae llawer o wahanol fathau o angladd ac efallai mae'n ddefnyddiol gwybod:
- Mae'r seremoni yn gallu adlewyrchu unrhyw gredoau crefyddol neu draddodiadau amlddiwylliannol.
- Nid oes rhaid cynnal y seremoni mewn adeilad trwyddedig.
- Mae'r gladdedigaeth yn gallu bod ar dir preifat cyn belled nad oes dim ar y gweithredoedd sy'n cyfyngu defnydd yr eiddo.
- Mae'n bosibl personoli’r seremoni drwy gerddoriaeth, darlleniadau, cyfraniadau unigol a dylai adlewyrchu dymuniadau’r teulu a ffrindiau, neu’r ymadawedig os yw’r trefniadau wedi’u pennu ymlaen llaw.
Defnyddio trefnydd angladdau
Mae mwyafrif y bobl yn dewis defnyddio trefnydd angladdau proffesiynol. Mae hyn yn gallu helpu ar adeg sydd, yn gyffredinol, yn llawn straen a bydd yn sicrhau bod y person sydd wedi marw yn cael ei drin mewn ffordd urddasol.
Mae eich trefnydd angladdau yn gallu rhoi cyngor i chi am yr opsiynau sydd ar gael i chi
Dewis trefnydd angladdau
Efallai y bydd ffrindiau, teulu, clerigwyr neu'ch meddyg yn gallu argymell trefnwyr angladdau lleol.
Mae'r rhan fwyaf o gwmnïau lleol hefyd wedi'u rhestru yn y llyfr ffôn.
Mae’r rhan fwyaf o drefnwyr angladdau yn aelodau o un o ddwy gymdeithas fasnach:
- Cymdeithas Genedlaethol y Trefnwyr Angladdau (NAFD).
- Cymdeithas Trefnwyr Angladdau Perthynol ac Annibynnol (SAIF).
Rhaid i gwmnïau sy'n aelodau o un o'r cymdeithasau hyn roi rhestr brisiau i chi ar gais ac nid ydyn nhw'n gallu codi pris sy'n uwch nag unrhyw amcangyfrif ysgrifenedig y maen nhw'n ei roi i chi heb eich caniatâd chi.
Y Ganolfan Marwolaeth Naturiol
Y Ganolfan Marwolaeth Naturiol yw'r unig wasanaeth annibynnol sy'n cynnig cyngor am angladdau yn y Deyrnas Unedig. Yn darparu cymorth gyda threfnu angladdau eich hun ac angladdau ecogyfeillgar.
Cymdeithas Genedlaethol y Trefnwyr Angladdau
Mae Cymdeithas Genedlaethol y Trefnwyr Angladdau yn cynnwys gwybodaeth helaeth am y Gymdeithas, gan gynnwys y newyddion diweddaraf, manylion am y math o wasanaethau y gallwch chi ddisgwyl ei gael gan Aelodau, rhaglenni addysg a'r cynllun angladd rhagdaliedig.
Cymdeithas Trefnwyr Angladdau Perthynol ac Annibynnol
Fe gewch chi arweiniad a chyngor gan Gymdeithas Trefnwyr Angladdau Perthynol ac Annibynnol ar gynllunio a threfnu angladd, p’un a ydych chi'n meddwl ymlaen llaw am eich angladd eich hun neu angen trefnu angladd anwylyd.