Cronfa Datblygu Cymunedol Gwledig

Bydd y Gronfa Datblygu Cymunedol Gwledig (CDCG) yn cynnig grantiau ar gyfer amrywiaeth eang o ymyriadau a gynlluniwyd i atal a lliniaru effaith tlodi mewn cymunedau gwledig gan wella amodau a all arwain at dwf a swyddi yn y dyfodol.

Amcanion y Gronfa yw hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, lleihau tlodi a datblygiad economaidd mewn ardaloedd gwledig, gan helpu’r rhai mwyaf difreintiedig yng Nghymru wledig a’r rhai â chwmpas cyfyngedig i newid eu
hamgylchiadau ac i ddatblygu gwytnwch a gallu cymunedau gwledig fel eu bod yn gallu ymdopi ac addasu i newid yn well.

Bydd meysydd allweddol ar gyfer cymorth yn cynnwys creu cynlluniau datblygu pentref/cymunedol; buddsoddiadau mewn seilwaith ar raddfa fach gan gynnwys ynni adnewyddadwy yn seiliedig yn y gymuned; buddsoddiadau mewn TGCh gan gynnwys band eang a chynhwysiant digidol; gwella mynediad ar wasanaethau megis gofal plant, trafnidiaeth wledig a chyngor ariannol; buddsoddiadau mewn gweithgareddau, seilwaith twristiaeth a hamdden i wella iechyd ac ansawdd bywyd.

Pwy all wneud cais am grant?

Mae gan y buddiolwyr canlynol hawl i wneud cais i’r Gronfa Datblygu Cymunedol Gwledig (D.S. mae’n rhaid i bob ymgeisydd fod yn endid cyfreithiol): Grwpiau Gweithredu Lleol (GGLl), grwpiau cymunedol lleol (gan gynnwys elusennau ac ymddiriedolaethau, grwpiau cydweithredol), mentrau cymdeithasol, Cwmnïau Cyfyngedig drwy Warant; Cwmnïau Buddiannau Cymunedol; cwmnïau cydfuddiannol; awdurdodau lleol; Llywodraeth Cymru sydd yn gweithredu yng nghanol ward neu ganolfan gwasanaeth sydd yn darged i’r CDLl.

Rhaid i’r holl ymgeiswyr ar lefel gymunedol drafod eu syniadau a’u cynigion gyda’r GGLl ar gyfer eu hardal cyn cyfl wyno eu cais i Lywodraeth Cymru. Bydd y GGLl yn asesu sut mae’r syniad yn gweddu gyda blaenoriaethau eu
Strategaeth Ddatblygu Lleol (SDLl) a  gymeradwywyd ar gyfer eu hardal ac yn helpu i ddatblygu cynigion os oes angen.

Sut i ymgeisio

Bydd y broses ymgeisio mewn dau gam. Y cam cyntaf fydd cyfl wyno Datganiad o Ddiddordeb (EOI). Rhaid i’r ymgeisydd ddarparu amlinelliad o’r buddsoddiad prosiect arfaethedig yn egluro sut fydd y prosiect yn cyfl awni yn erbyn pob un o’r meini prawf asesu ar gyfer y ffenestr Datganiad o Ddiddordeb. Gwahoddir ymgeiswyr sy’n llwyddo ar y cam Datganiad o Ddiddordeb i’r ail gam i gyfl wyno Cais Llawn.

Gellir cael y ffurfl en Datganiad o Ddiddordeb o’r wefan ganlynol http://gov.wales/topics/environmentcountryside/farmingandcountryside/cap/ruraldevelopment/wales-rural-development-programme-2014-2020/rural-communitydevelopment-fund/?skip=1&lang=cy

I drafod eich prosiect arfaethedig gyda’r Gr wˆ p Gweithredu Lleol cysylltwch ag Owen Ashton (Rheolwr Cyfl enwi’r RDP) ar 01443 838632 neu e-bostiwch ashtoo@caerffili.gov.uk.

Beth yw lefel y Grant sydd ar gael?

Mae grantiau ar gael am rhwng 50% ac 80% o gyfanswm costau’r prosiect, gan ddibynnu ar y prosiect ei hun. Bydd y dyfarniadau grant lleiaf rhwng £400 a £2,400 a’r grant mwyaf sydd ar gael yw £128,000.

Pa mor aml mae ceisiadau grant yn cael eu hystyried?

Mae’r cynllun yn gweithredu drwy ffenestri a fydd yn agor ac yn cau yn rheolaidd drwy oes y rhaglen. Y dyddiad cau ar gyfer rownd ymgeisio EOI nesaf yw 30 Mehefi n 2016.