Polisi ar Ddyfarnu Grantiau

Sefydlodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 fframwaith cyfreithiol i osod dyletswydd ar awdurdodau lleol i gydymffurfio â Safonau ymddygiad mewn perthynas â’r Gymraeg. Yn benodol, golyga hyn na all Awdurdodau Lleol drin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, a rhaid iddynt hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg gan ei gwneud yn haws i bobl ei ddefnyddio yn eu bywyd bob dydd.

Nod Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yw i beidio â thrin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal, ond yn hytrach i gael effeithiau cadarnhaol ar y Gymraeg. Oherwydd hyn, mae’r Mesur yn caniatáu i gyrff i weithredu’r nod hwn yn annibynnol i unrhyw effaith ar y Saesneg.

Mae dwy egwyddor allweddol i Fesur y Gymraeg, sef:

  • Ni ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
  • Dylai pobl yng Nghymru allu byw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi bod yn gweithredu Safonau’r Gymraeg ers 2016, ac maent yn effeithio ar bob maes o waith y Cyngor. Gall Comisiynydd y Gymraeg gymhwyso detholiad o sancsiynau, gan gynnwys sancsiynau ariannol, am bob achos o dorri safon y profwyd.

Mae Safon 94 yn ein Hysbysiad Cydymffurfio yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor i lunio a chyhoeddi polisi ar ddyfarnu grantiau. Mae’r polisi hwn yn ein galluogi i ystyried pa effeithiau (positif neu negyddol) y byddai dyfarnu grant yn eu cael ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Mae’r polisi hefyd yn ein galluogi i ystyried sut y gall dyfarnu grant gael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif ar y Gymraeg, a sut mae sicrhau na fydd grantiau’n cael effaith negyddol.

Polisi ar Ddyfarnu Grantiau