Cronfa Treftadaeth y Loteri - ‘Rhannu Treftadaeth’

Mae ‘Rhannu Treftadaeth’ yn darparu grantiau o £3,000 - £10,000 ar gyfer prosiectau treftadaeth ar raddfa fechan. Hon yw rhaglen grant leiaf Cronfa Treftadaeth y Loteri, ac mae’n gymwys ar gyfer grwpiau sydd heb wneud cais atom o’r blaen, yn ogystal â sefydliadau mwy profi adol. O dan ‘Rhannu Treftadaeth’ gallwn ariannu llawer o wahanol fathau o brosiectau. Yn y ffurfl en gais byddwn yn gofyn i chi pa dreftadaeth y mae eich prosiect yn canolbwyntio arno, pa weithgareddau y byddwch yn eu gwneud, a sut y byddwch yn rhannu’r hyn yr ydych wedi ei wneud.

Mae treftadaeth yn cynnwys nifer o bethau gwahanol o’r gorffennol yr ydym yn eu gwerthfawrogi ac rydym eisiau eu trosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol, er enghraifft: safl eoedd archeolegol; casgliadau o wrthrychau, llyfrau neu
ddogfennau mewn amgueddfeydd, llyfrgelloedd neu archifau; traddodiadau diwylliannol fel straeon, gwyliau, crefftau, cerddoriaeth, dawns a gwisgoedd; adeiladau hanesyddol; hanes pobl a chymunedau; hanes lleoedd a digwyddiadau; treftadaeth ieithoedd a thafodieithoedd; tirweddau naturiol a thirweddau wedi’u dylunio a gerddi; atgofi on a phrofi adau pobl (fel arfer cânt eu cofnodi fel ‘hanes llafar’); lleoedd a gwrthrychau sy’n gysylltiedig â’n hanes diwydiannol, morwrol a chludiant; a threftadaeth naturiol gan gynnwys cynefi noedd, rhywogaethau a daeareg; prosiectau digidol fel ap ffonau deallus, DVD neu wefan.

Pwy all wneud cais am grant?

O dan y rhaglen hon, rydym yn ariannu ceisiadau gan: fudiadau dielw; a phartneriaethau a arweinir gan fudiadau dielw. Dyma rai enghreifftiau o’r hyn a all gael ei hariannu: Elusennau neu ymddiriedolaethau; grwpiau cymunedol neu wirfoddol; cynghorau cymunedol/plwyf; Cwmnïau Buddiannau Cymunedol; awdurdodau lleol; mudiadau sector cyhoeddus eraill fel amgueddfeydd a ariennir yn genedlaethol; mentrau cymdeithasol.

Sut i ymgeisio

Trwy lawrlwytho’r canllawiau a’r ffurfl en gais oddi ar wefan Cronfa Treftadaeth y Loteri www.hlf.org.uk/lookingfunding/our-grant-programmes/sharing-heritage. Y swyddfa gyswllt Leo yng Nghymru yw: Tyˆ James William, 9 Plas yr Amgueddfa, Caerdydd CF10 3BD Ffôn: 029 20343413 E-bost: wales@hlf.org.uk.

Beth yw lefel y grant sydd ar gael?

Mae’r rhaglen ‘Rhannu Treftadaeth’ yn dyfarnu grantiau gwerth rhwng £3,000 a £10,000 ar gyfer prosiectau treftadaeth graddfa fach. Os yw’ch prosiect wedi’i lunio i fod o fudd i bobl yng Nghymru, rydym yn disgwyl i chi wneud defnydd priodol o’r iaith Gymraeg wrth gyfl enwi eich prosiect, bydd angen cynnwys costau cyfi eithu i’r Gymraeg yn rhan o’r costau ar gyfer y prosiect.

Pa mor aml mae ceisiadau grant yn cael eu hystyried?

Nid oes unrhyw ddyddiadau cau ynghlwm â’r rhaglen hon - mae modd i chi ymgeisio unrhyw bryd. Mae’r ffufrlen gais yn syml a byddwn yn asesu eich cais o fewn wyth wythnos.