Cronfa Grantiau i'r Sector Gwirfoddol
Mae'r cynllun grantiau hwn yn cynnig grantiau bach iawn i sefydliadau cymunedol/yn y sector gwirfoddol, ac maen nhw'n gyfraniad tuag at gostau rhedeg y sefydliad. Nid oes meini prawf ffurfiol ar gyfer y grant; yn lle hynny, mae grantiau'n cael eu dyrannu yn unol â set o ‘feini prawf cyffredinol’.
Cymorth i Unigolion: Mae'r grant hwn er mwyn rhoi cymorth i unigolion sy'n cynrychioli'r Fwrdeistref Sirol neu Gymru ar lefel genedlaethol neu ryngwladol, yn y flwyddyn ariannol berthnasol.
Pwy sydd â'r hawl i wneud cais?
Sefydliadau gwirfoddol a sefydliadau elusennol – mae'r rhain yn sefydliadau sydd â dogfen lywodraethu (fel cyfansoddiad) ac yn chwilio am grant bach i gefnogi eu gweithgareddau.
Unigolion sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer cymorth i unigolion.
Sut i wneud cais
I wneud cais am arian, mae angen i chi lenwi ffurflen gais rydych chi'n gallu ei lawrlwytho isod (unigol neu sefydliad), neu cysylltwch â'r Tîm Polisi a Phartneriaethau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7PG.
Ffôn: 01443 866391
E-bost: GrantiauCymunedol@caerffili.gov.uk
Faint o grant sydd ar gael?
Mae'r grantiau gwerth hyd at £400, ond, yn gyffredinol, maen nhw'n llai na'r swm hwn. Mae rhestr o'r ‘meini prawf cyffredinol’ ar gyfer dyfarniadau ar gael, isod.
Categori
|
Meini prawf
|
Gwerth
|
A
|
Cymdeithas Pensiynwyr gyda'i hadeilad ei hun
|
300
|
B
|
Cymdeithas Pensiynwyr heb ei hadeilad ei hun
|
150
|
C
|
Unigolion (amatur) sy'n cynrychioli Cymru gartref
|
130
|
C1
|
Unigolion (amatur) sy'n cynrychioli Cymru – Grant Atodol
|
120
|
D
|
Unigolion (amatur) sy'n cynrychioli Cymru dramor
|
250
|
E
|
Bandiau jazz
|
100
|
F
|
Corau
|
100
|
G
|
Clwb chwaraeon i blant (hyd at 50 o aelodau)
|
100
|
G1
|
Clwb chwaraeon i blant (dros 50 o aelodau)
|
200
|
H
|
Clybiau Bechgyn a Merched/YMCA/Sgowtiaid/Cybiau/Brownis/Geidiaid/Brigâd y Bechgyn/Croesgadwyr (hyd at 50 o aelodau)
|
100
|
H1
|
Clybiau Bechgyn a Merched/YMCA/Sgowtiaid/Cybiau/Brownis/Geidiaid/Brigâd y Bechgyn/Croesgadwyr (dros 50 o aelodau)
|
200
|
I
|
Ambiwlans Sant Ioan (hyd at 50 o aelodau) – Cadetiaid/Badgers
|
100
|
J
|
Ambiwlans Sant Ioan (dros 50 o aelodau) – Cadetiaid/Badgers
|
200
|
M
|
Bandiau Pres ac Arian
|
400
|
N
|
Rhandiroedd
|
100
|
O
|
Cymdeithas y Celfyddydau
|
100
|
P
|
Clybiau Ysgrifenwyr
|
100
|
Q
|
Grwpiau Theatr
|
200
|
R
|
Grwpiau Cymunedol
|
100
|
S
|
Grwpiau Gwenynwyr
|
100
|
T
|
Clybiau Garddio
|
150
|
U
|
Cymdeithas Tenantiaid a Phreswylwyr
|
100
|
V
|
Gwefannau – Cam dylunio cychwynnol yn unig
|
100
|
W
|
Clybiau Cadw Colomennod
|
200
|
X
|
Clybiau sy'n cael eu rhedeg o Eglwysi/Capeli
|
200
|
Y
|
Clwb chwaraeon (hyd at 50 o aelodau)
|
100
|
Z
|
Clwb chwaraeon (dros 50 o aelodau)
|
200
|
AA
|
Arall – hyd at uchafswm
|
400
|
Pa mor aml mae ceisiadau yn cael eu hystyried?
Mae modd cyflwyno cais ar unrhyw adeg, ac mae ceisiadau'n cael eu hasesu'n fisol.