Cronfa Cymorth Cymunedol

Mae'r Gronfa Cymorth Cymunedol ar gael i grwpiau a sefydliadau gael mynediad at gyllid i gyflwyno gweithgareddau cymunedol. Mae pwrpas cyffredinol y cyllid yn eang a byddai angen i unrhyw gais ganolbwyntio ar un neu fwy o’r meini prawf canlynol:

  • Argyfwng Costau Byw
  • Unigrwydd ac Arwahanrwydd
  • Tlodi Bwyd
  • Addysg a Hyfforddiant
  • Gwirfoddoli

Yn eich cais, bydd angen i chi ddangos yn glir sut mae'ch prosiect chi'n bodloni pob un o’r meini prawf perthnasol a sut y byddwch chi'n monitro'r effaith y bydd y gyllid yn ei chael ar y bobl a'r gymuned rydych chchi'n cyflawni ynddi.

Bydd y rownd ariannu yn ariannu prosiectau i redeg dros gyfnod o chwe mis. (1 Hydref 2023 i 31 Mawrth 2024)

Gall sefydliadau wneud cais i'r gronfa unwaith yn unig yn ystod y cyfnod chwe mis.

Bydd angen i bob cais gael ei drafod a’i gymeradwyo gan Swyddog Datblygu Gofalu am Gaerffili i sicrhau bod Telerau ac Amodau’r gronfa’n cael eu bodloni a bod gennych chi'r cymorth angenrheidiol er mwyn i’ch prosiect chi gael yr effaith fwyaf posibl.

I gwblhau eich cais, bydd angen i chi lenwi’r templed cyllid sydd ar gael gan eich cyswllt Gofalu am Gaerffili chi.

Os nad ydych chi eisoes mewn cysylltiad â Swyddog Gofalu am Gaerffili a hoffech chi wneud cais, cysylltwch â ni ar 01443 811490 neu e-bostio GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk

Y DYDDIAD CAU AR GYFER CEISIADAU YW DYDD LLUN 4 RHAGFYR 2023.