Cronfa Ymrymuso’r Gymuned

Cafodd Cronfa Ymrymuso'r Gymuned ei chreu i alluogi cymunedau i ddatblygu a chyflawni prosiectau, gyda'r nod o ddiwallu anghenion eu trigolion. Rhan allweddol o hyn fydd cynnwys Aelodau Ward lleol fel un o'r pwyntiau cyswllt allweddol mewn cymunedau lleol, a fydd yn gweithio gyda grwpiau cymunedol lleol, ac yn eu helpu nhw, i ddatblygu syniadau ar gyfer prosiectau sy'n diwallu angen dynodedig yn y ward.

Pwy sydd â'r hawl i wneud cais?

Mae'n rhaid i brosiectau gael eu rheoli gan sefydliadau dielw sydd wedi'u lleoli ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, ac mae'n rhaid iddynt fod yn un o'r canlynol:

  • Sefydliad neu glwb gwirfoddol/cymunedol anghorfforedig â rheolau neu gyfansoddiad mabwysiedig
  • Elusen neu Sefydliad Corfforedig Elusennol (CIO) sydd wedi cofrestru gyda'r Comisiwn Elusennau
  • Sefydliad cymunedol sy'n Gwmni Cyfyngedig trwy Warant (CLG) heb unrhyw gyfalaf cyfrannau ac sydd wedi cofrestru gyda Thŷ'r Cwmnïau
  • Cwmni Buddiannau Cymunedol (CIC) nad yw wedi'i sefydlu er budd preifat nac yn cael ei gynnal er budd preifat: defnyddir unrhyw warged neu asedau er budd y gymuned yn unig

Pa lefel o grant sydd ar gael?

Yr uchafswm sydd ar gael i unrhyw sefydliad/grŵp cymunedol yw £3,630. Gellir dyfarnu grant o hyd at 100% o gostau'r prosiect i brosiectau cymeradwy lle mae cyfanswm y gost yn llai na £3,630. Gall prosiectau mwy o faint sy'n costio dros £3,630 gael grant o hyd at yr uchafswm, gyda disgwyliad y bydd gweddill y cyllid sy'n ofynnol yn cael ei gyrchu gan y sefydliad/grŵp cymunedol o ffynonellau eraill.

Oherwydd bod gan bob Aelod Ward ddyraniad o £3,630, gellir cynnig llai na'r uchafswm i sefydliadau os oes sawl cais mewn wardiau unigol mewn un cylch ymgeisio. Os yw hyn yn digwydd, bydd Aelodau Ward yn y ward berthnasol yn cael eu cynnwys mewn trafodaethau ynghylch blaenoriaethu pa brosiectau i'w cynorthwyo.

Gall Aelodau Ward hefyd ddewis cyfuno cronfeydd eu wardiau nhw gyda rhai Aelodau eraill i ariannu prosiectau mwy o faint. Nid oes gofyn iddyn nhw wneud hyn, a bydd angen trafod hyn gyda'r Aelodau Ward perthnasol fesul prosiect, yn ôl y gofyn. 

Dylai ceisiadau fod am isafswm o £1,000, a gall hyn gynnwys nifer o wahanol eitemau er mwyn cyrraedd yr isafswm hwn. Ni fydd ceisiadau am lai na £1,000 yn cael eu hystyried.

Pa mor aml mae ceisiadau yn cael eu hystyried?

Bydd sawl cylch o'r cynllun grantiau bob blwyddyn a bydd y dyddiadau cau yn cael eu rhannu ag Aelodau Ward. Bydd Aelodau Ward yn gallu gweithio gyda grwpiau a sefydliadau cymunedol, a'u helpu i wneud cais – i gael y manylion am eich Aelod Ward lleol, ewch i Eich Cynghorwyr.

Yn ogystal, mae'n bosibl y bydd Gofalu am Gaerffili a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent hefyd yn gallu eich helpu chi i ddatblygu eich prosiect a rhoi cyngor a chanllawiau ar lenwi'r ffurflen gais.

Sut i wneud cais

Cyrchwch feini prawf y cais

Nodwch fod yn rhaid i'ch prosiect chi gael ei noddi gan Aelod Ward o'r ward mae'r prosiect wedi'i leoli ynddi, felly bydd angen i chi gysylltu â nhw i drafod eich prosiect chi cyn gofyn am ffurflen gais.

Os ydych chi o'r farn bod eich prosiect yn bodloni'r meini prawf cytunedig, bydden ni'n croesawu cael sgwrs â chi, fel y gallwn ni ddeall beth fydd eich prosiect chi’n ei olygu a helpu sicrhau bod y broses ymgeisio mor rhwydd â phosibl. Os yw'ch prosiect yn bodloni'r meini prawf, byddwn ni wedyn yn anfon ffurflen gais atoch chi i'w llenwi. Cysylltwch â:

Tîm Polisi a Phartneriaethau
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7PG.

E-bost: CYG@caerffili.gov.uk
Ffôn: 01443 866391

Os nad ydych chi’n gwybod pwy yw eich Aelodau Ward lleol, cliciwch yma Eich Cynghorwyr (caerphilly.gov.uk).

Fel rhan o’r broses o wneud cais, byddwch chi’n cael eich gofyn i roi dau ddyfynbris/amcangyfrif ysgrifenedig ar gyfer pob eitem o wariant. Am waith adeiladu, efallai bydd hwn o ddau gontractwr gwahanol; am wasanaethau sy’n cael eu darparu, bydd hwn yn ddau ddyfynbris o gyflenwyr neu ddarparwyr; ar gyfer eitemau llai o faint, gallwch chi ddefnyddio ein gwefan neu gyflenwyr i gael prisiau ar gyfer eitemau unigol. Dylai pob dyfynbris/amcangyfrif fod yn gyfatebol cyn belled ag sy’n bosibl, h.y. dau ddyfynbris ar gyfer yr un gwaith, neu dau bris ar gyfer eitem o’r un gwneuthuriad a model sydd am gael ei phrynu. Bydd angen cyflwyno’r dyfynbrisiau/amcangyfrifon hyn gyda’r ffurflen gais gyflawn.