Cyfryngau cymdeithasol
Rydym yn defnyddio safleoedd rhwydweithio cymdeithasol i drosglwyddo ystod eang o wybodaeth i'r gymuned leol, preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr. Croesawn eich lluniau, cyhoeddiadau a sylwadau p'un a ydynt yn dda neu'n ddrwg.
Gallwch ein hoffi ar Facebook ac ysgrifennu ar ein wal, ein dilyn ar Twitter ac anfon eich 'trydar' atom, anfon lluniau atom a byddwn yn eu lanlwytho i'n horiel Flickr gymunedol, a gwylio ein fideos difyr a llawn gwybodaeth ar YouTube.
Rydym yn defnyddio cartwnau defaid eiconig Gren i helpu i hyrwyddo ein sianelau cyfryngau cymdeithasol, diolch i ganiatâd caredig gan deulu'r cartwnydd poblogaidd iawn o'r cymoedd.
Facebook
Mae gan y cyngor dudalen Facebook ei hun - 'Hoffwch ni' ac anfonwch eich sylwadau atom ar ein cyhoeddiadau.
Twitter
Cofrestrwch i greu cyfrif Twitter. Unwaith y byddwch wedi cofrestru, gallwch 'ddilyn' ein ffrwd Twitter, derbyn y newyddion diweddaraf oddi wrthym ac anfon negeseuon atom.
YouTube
Edrychwch ar y fideos diweddaraf ar ein Sianel YouTube - Caerphilly CBCTV.
Flickr
Porwch drwy ein horielau lluniau.
Instagram
Yn rhannu delweddau o weithgareddau'r cyngor a chymunedau ar draws Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Browse our other social media channels.