Canolfan Newyddion

Bwletin Newyddion
Clybiau Hoci Sue Noake a Rhisga, sydd wedi’u lleoli yn Hwb Hoci Canolfan Hamdden Sue Noake y Cyngor yn Ystrad Mynach, yw’r pumed a’r chweched clwb yng Nghymru i gael diffibrilwyr tyngedfennol. Cafodd y diffibrilwyr eu rhoi gan elusen RALPHH mewn partneriaeth â Hoci Cymru, fel rhan o fenter genedlaethol i wella diogelwch chwaraewyr ac aelodau yn...
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn llawn cyffro i gyhoeddi digwyddiad arbennig sy’n canolbwyntio ar les a datgarboneiddio, sy’n cael ei gynnal yn Hwb Llyfrgell Rhymni, ddydd Iau 10 Hydref. Mae’r digwyddiad hwn yn cyd-fynd ag Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd, sy’n dathlu cynaliadwyedd, ymgysylltu â’r gymuned a byw’n eco-ymwybodol.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn falch o roi diweddariad ar y gwaith adnewyddu parhaus ym mhwll nofio Canolfan Hamdden Trecelyn. Mae'r pwll nofio wedi bod ar gau ers mis Gorffennaf er mwyn caniatáu gwaith amnewid ffaniau’r uned trin aer, a oedd angen rhannau pwrpasol nad ydyn nhw ar gael, yn anffodus, yn y Deyrnas Unedig.
Mae tri sy’n cael cymorth Gofalu am Gaerffili wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobrau mawreddog yng Ngwobrau Gwirfoddolwyr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent, a fydd yn cael ei gynnal ar 8 Hydref yng Nghlwb Rygbi Coed Duon. Mae’r seremoni wobrwyo yn dathlu cyfraniadau eithriadol gwirfoddolwyr ledled ardal Gwent, ac mae’r enwebiadau hyn yn...
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymeradwyo ei Strategaeth Gwastraff uchelgeisiol yn swyddogol, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus cynhwysfawr am 12 wythnos ac ystyried adborth gan drigolion yn fanwl.
​Mae disgyblion yn Ysgol Gymraeg Cwm Derwen wedi bod yn cymryd rhan yng ngham adeiladu eu hestyniad ystafelloedd dosbarth newydd.