Defnyddio delweddau

Dylai pob delwedd ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili fod yn gysylltiedig â'r cynnwys ysgrifenedig. Mae un ddelwedd fawr yn cael mwy o effaith nag un neu ragor o ddelweddau llai.

Gwybodaeth am hawlfreintiau

Rydych chi'n torri'r gyfraith os ydych chi'n defnyddio lluniau heb ganiatâd. Wrth ddefnyddio delweddau ar wefan Cyngor Caerffili, bydd angen i chi wneud yn siŵr nad ydych chi’n torri hawlfraint.

Mae pob delwedd yn perthyn i rywun, cwmni neu sefydliad. Os nad chi neu Gyngor Caerffili yw perchennog y ddelwedd, neu os nad oes gennych chi ganiatâd y perchennog i ddefnyddio'r ddelwedd, ni allwch ddefnyddio'r ddelwedd ar y wefan yn gyfreithlon.

Os nad ydych chi'n sicr a ydych chi am ddefnyddio delwedd, rhaid i chi bob amser ofyn i'r perchennog am ganiatâd; os oes gennych chi unrhyw amheuaeth, PEIDIWCH â defnyddio'r ddelwedd.

Delweddau y gallwch chi eu defnyddio

Byddwch chi'n gallu defnyddio delweddau o'r ffynonellau canlynol:

  • Delweddau rydych chi wedi'u tynnu.
  • Delweddau wedi'u tynnu gan ffotograffwyr allanol swyddogol Cyngor Caerffili.
  • Delweddau wedi'u llwytho i fyny i'n Llyfrgell Cyfryngau System Rheoli Cynnwys (mae gan y rhain ganiatâd i'w defnyddio ac maen nhw wedi'u hoptimeiddio i'w defnyddio ar y we)
  • Delweddau wedi'u prynu o wefannau delweddau stoc (fel Adobe, cyn belled â'ch bod chi'n cydymffurfio â thelerau'r cytundeb trwydded)
  • Delweddau rydych chi'n eu llwytho i lawr o wefannau delweddau rhad ac am ddim.

Delweddau na allwch chi eu defnyddio

Yn gyfreithiol, ni allwch chi ddefnyddio delweddau rydych chin cael o'r ffynonellau canlynol oni bai bod gennych chi ganiatâd perchennog y llun:

  • Delweddau o wefannau eraill (fel blogiau neu wefannau cwmnïau)
  • Delweddau o beiriannau chwilio (fel peiriant chwilio delweddau Google)
  • Delweddau o wefannau cynnal delweddau fel Flickr; nad oes ganddyn nhw'r drwydded briodol)
  • Delweddau wedi'u sganio neu eu tynnu o lyfrau neu ddeunyddiau printiedig.

I ddefnyddio'r delweddau o'r uchod, bydd angen i chi gael caniatâd perchennog y ddelwedd, perchennog y wefan, neu gyhoeddwr y llyfr.

Ceisiwch osgoi defnyddio testun o fewn delwedd

Pan fydd testun sydd i fod i gael ei ddarllen yn cael ei arddangos fel delwedd, ni all darllenwyr sgrin a thechnolegau cynorthwyol eraill ddarllen testun o fewn delwedd. Yn lle hynny, byddan nhw'n darllen y testun amgen sydd wedi'i ddarparu.

Yr arfer gorau ar gyfer hygyrchedd yw ysgrifennu testun fel testun. Yn aml, mae defnyddwyr yn gallu colli gwybodaeth werthfawr sy'n cael ei rhannu drwy ddelwedd o destun.

Optimeiddio delweddau ar gyfer y we

Cyn uwchlwytho delweddau i'r System Rheoli Cynnwys, dylen nhw gael eu hoptimeiddio ar gyfer y we.  Mae'n bosibl gwneud hyn yn Adobe Photoshop neu offeryn ar-lein fel Pixlr Editor.

Mae optimeiddio delwedd yn golygu lleihau maint ei ffeil a dimensiwn y picseli i faint addas ar gyfer y we heb golli ansawdd.

Mae hyn yn hanfodol gan y bydd yn sicrhau y bydd eich tudalennau chi'n llwytho'n gyflymach, sy'n arbennig o bwysig i ddefnyddwyr ar gysylltiadau arafach ac ar gynlluniau data symudol.

Enwau ffeiliau delweddau

Bydd angen i ddelweddau sy'n cael eu cadw ar gyfer y we gael enw ffeil sy'n ddiogel ar y we. Dylen nhw i gyd fod mewn llythrennau bach, dim nodau arbennig ac eithrio cysylltnodau a dim bylchau. (e.e. caerffili-council-building.jpg).

Bydd hyn yn sicrhau y bydd y delweddau'n cael eu harddangos yn gywir ar bob porwr gwe a dyfais. Bydd hefyd yn helpu peiriannau chwilio i ddod o hyd i'r dudalen y maen nhw'n cael eu defnyddio arni.

Fformatau delweddau

Dylai graffigau'r delweddau gael eu cadw mewn fformat JPG, PNG neu GIF. Dyma reol gyffredinol wrth gadw delweddau ar gyfer y we:

  • Dylech chi ddefnyddio JPG ar gyfer delweddau ffotograffig.
  • Dylech chi ddefnyddio GIF neu PNG-8 ar gyfer logos neu ddelweddau gyda blociau o liw fflat a dim graddiannau.
  • Dylech chi ddefnyddio PNG-24 ar gyfer graffigau gan ddefnyddio effeithiau fel cysgodion neu ddisgleirdeb, sydd hefyd angen tryloywder.

Hygyrchedd delweddau

Mae tagiau amgen yn darparu testun i ddisgrifio delweddau ar eich tudalen we chi. Pan fydd defnyddiwr technoleg darllenydd sgrin yn dod ar draws delwedd, y testun amgen yw'r hyn y bydd yn ei glywed, felly, mae'n bwysig darparu'r tag amgen cywir ar gyfer pob delwedd.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cyfleu unrhyw ystyr yn y tag amgen y byddai'r llun yn ei ddarparu i ddefnyddiwr sy'n gweld. Osgowch, hefyd, eiriau diangen fel “Llun o” neu “Delwedd o” yn eich tagiau amgen gan y bydd y darllenydd sgrin yn delio â hynny i chi.

Awgrymiadau defnyddiol ar sut i ysgrifennu testun amgen da

  • Ychwanegwch destun amgen at bob delwedd anaddurnol.
  • Cadwch y testun yn fyr ac yn ddisgrifiadol, fel neges drydar.
  • Peidiwch â chynnwys “delwedd o” neu “ffotograff o”.
  • Gadewch y testun amgen yn wag os yw'r ddelwedd yn addurniadol yn unig
  • Eiconau: dylai testun amgen ar gyfer eiconau fod yn gyfwerth â'r wybodaeth mae'r eicon i fod i'w chyfleu, megis “Lawrlwytho PDF” neu “Ewch i'n Tudalen Facebook”
  • Delweddau fel Dolenni: Os yw'r ddelwedd yn cael ei defnyddio i gysylltu â thudalen arall, dylai'r testun amgen ddisgrifio beth fydd yn digwydd pan gaiff y ddelwedd ei chlicio (yn hytrach na sut mae'n edrych). Er enghraifft, dylai’r testun amgen ar gyfer delwedd o farciau cwestiwn sy’n cysylltu â thudalen gymorth fod yn “Tudalen Cael Cymorth” yn hytrach na “marc cwestiwn.”
  • Delweddau gyda gwybodaeth gymhleth: Os yw'r ddelwedd yn siart, diagram, neu ddarlun, ystyriwch sut i gyfleu'r wybodaeth sydd yn y ddelwedd gan ddefnyddio'r testun amgen a'r testun tudalen gyfagos.
  • Mae angen anfon pob testun amgen i gael ei gyfieithu.