Tôn y Llais

Nid tôn y llais yw'r hyn rydyn ni'n ei ddweud ond sut rydyn ni'n ei ddweud. Dyma’r iaith rydyn ni’n ei defnyddio, y ffordd rydyn ni’n ysgrifennu ymadroddion, sŵn ein geiriau a’r bersonoliaeth rydyn ni’n ei chyfathrebu.

Datblygu a threfnu

Wrth ddatblygu a threfnu gwefan, mae trefn y cynnwys ar y dudalen ac ar y wefan gyfan yn gallu helpu llywio'r tôn yr iaith a sut mae'r wefan yn cael ei gosod:

  • Dylai tudalen gartref a thudalennau glanio gynnwys testun cryno, penawdau, a llawer o graffigau a delweddau.
  • Meddyliwch am yr hafan a'r tudalennau glanio fel y defnyddiwr yn cerdded i mewn i dderbynfa Cyngor Caerffili a chael teimlad o'r lle. Gallai hyn fod eu hargraff cyntaf o Gyngor Caerffili.
  • Yn aml, mae angen i is-dudalennau gynnwys mwy o fanylion.
  • Awgrymiadau defnyddiol
  • Meddyliwch cyn dechrau ysgrifennu. Gwnewch nodyn o'r pwyntiau rydych chi am eu gwneud mewn trefn resymegol.
  • Defnyddiwch y person cyntaf i siarad â'ch cynulleidfa. Er enghraifft, yn lle 'Mae Cyngor Caerffili yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ym mis Rhagfyr ar gyfer preswylwyr', DEFNYDDIWCH 'Rydyn ni'n eich gwahodd i un o'n digwyddiadau ym mis Rhagfyr.'
  • Defnyddiwch eiriau syml a byr yn hytrach na geiriau ffurfiol a hir. Er enghraifft, defnyddiwch ‘prynu’ yn lle ‘pwrcasu’, ‘helpu’ yn lle ‘cynorthwyo’ a ‘tua’ yn lle ‘oddeutu’.
  • Ceisiwch osgoi jargon, byrfoddau ac acronymau sy'n anghyfarwydd i'ch darllenwyr. Defnyddiwch iaith glir i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu deall yr hyn rydych chi'n ceisio'i gyfathrebu.
  • Defnyddiwch ymadroddion byr. Cadwch eich ymadroddion i gyfartaledd o 15 i 20 o eiriau. Cyflwynwch ond un syniad fesul brawddeg.
  • Byddwch yn gryno
  • Ysgrifennwch yn anffurfiol. Dylen ni ddefnyddio’r un iaith â’n defnyddwyr i wneud pethau’n hawdd i unrhyw un darllen a deall yr iaith. Ffordd dda o wneud hyn yw dilyn y broses hon:
    • Meddyliwch am rywun rydych chi'n ei adnabod sydd yn eich cynulleidfa darged
    • Dychmygwch nhw yn eistedd gyda chi
    • Darllenwch yr hyn rydych chi'n ei ysgrifennu atyn nhw
    • Penderfynwch a fyddech chi'n siarad â nhw fel hyn.

Dewiswch eiriau syml

Dilynwch Ysgrifennu ar gyfer GOV.UK (Saesneg yn unig) a cheisio ysgrifennu at oedran darllen o 9 fel y mae cymaint o bobl â phosibl yn gallu deall ein cynnwys ni. Gallwch wirio pa mor ddarllenadwy yw eich cynnwys chi drwy ddefnyddio Hemingway neu Readable.

Cyfeiriwch at y defnyddiwr fel ‘chi’ a defnyddio'r llais gweithredol

Cyfeiriwch at y defnyddiwr fel ‘chi’ lle bo modd a defnyddio'r stad weithredol yn hytrach na’r stad oddefol. Mae hyn yn golygu y bydd y defnyddiwr yn teimlo eich bod chi'n siarad yn uniongyrchol â nhw ac yn llai ffurfiol.

Er enghraifft, dywedwch ‘Gallwch chi wneud cais ar-lein drwy ein porthol’ yn hytrach na ‘Gall preswylwyr wneud cais ar-lein drwy borthol Cyngor Caerffili’.

Defnyddiwch y stad weithredol ac osgoi defnyddio'r stad oddefol, er enghraifft:

OSGOWCH

Rhoddir cadis gwastraff bwyd yn rhad ac am ddim.

Mae pob dysgwr uwchradd sy'n gymwys am gludiant yn cael pàs bws.

Cafodd y gath ei erlid gan y ci.

YSGRIFENNWCH:

Mae cadis gwastraff bwyd yn rhad ac am ddim.

Rydyn ni'n darparu pasys bws i bob dysgwr uwchradd sy'n gymwys i gael cludiant.

Erlidiodd y ci y gath.

Dolenni Defnyddiol: