Canllawiau cam wrth gam

Cynnwys y we hygyrch

Mae'r dudalen hon yn cynnwys rhai camau sylfaenol i'ch helpu chi i ddechrau datblygu cynnwys y we sy'n hygyrch i bobl ag anableddau.

Mae'r awgrymiadau hyn yn arfer da i'ch helpu chi i fodloni gofynion Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) (Saesneg yn unig).

Canllawiau cam wrth gam

  • OSGOWCH ddogfennau PDF. Nid ydyn nhw'n hygyrch, yn fwy anodd eu canfod, eu defnyddio a'u cynnal. Yn ogystal, nid ydyn nhw'n ymatebol, sy'n golygu na fydd defnyddwyr yn gallu darllen ar sgriniau llai fel tabledi a ffonau symudol (Mae dros 70% o'n defnyddwyr ni yn defnyddio dyfeisiau symudol i gael mynediad at ein cynnwys ni). Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth ynghylch pam y dylai cynnwys yn cael ei gyhoeddi yn HTML ac nid PDF (Saesneg yn unig)

  • Rhowch gynnwys i ni mewn dogfen Word YN UNIG. Wrth greu cynnwys, cadwch y testun yn glir ac yn gryno a defnyddio iaith a fformatio syml. Gwybodaeth bellach ar gyfer ysgrifennu ar gyfer y we.

  • Gwnewch eich cynnwys chi yn y ddogfen Word wedi'i strwythuro'n dda drwy ddefnyddio teitl y dudalen, penawdau, pwyntiau bwled a chynnwys y corff, mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran strwythuro.

  • Mewnosodwch ddolenni sy’n gwneud synnwyr allan o gyd-destun ac osgoi ‘cliciwch yma’; nid yw’n hygyrch i ddefnyddwyr â nam ar eu golwg sy’n defnyddio darllenydd sgrin. Gallwch chi ddarganfod rhagor am sut i ddefnyddio dolenni ar eich cynnwys chi ar y dudalen we Ysgrifenni ar gyfer y we.

  • Nid tôn y llais yw'r hyn rydyn ni'n ei ddweud ond sut rydyn ni'n ei ddweud. Dyma'r iaith rydyn ni'n ei defnyddio, y ffordd rydyn ni'n adeiladu brawddegau, sain ein geiriau ni a'r bersonoliaeth rydyn ni'n ei chyfathrebu.   

  • Dylai tablau ar gyfer data defnyddio gael ei  defnyddio ac ni ddylai eu defnyddio nhw i hwyluso gosodiadau tudalennau neu ddogfennau. Bydd darllenwyr sgrin yn darllen cynnwys tabl mewn dull llinol — o'r chwith i'r dde, o'r brig i'r gwaelod. Mae tablau data syml yn llawer haws i'w llywio. Nid yw tablau cymhleth sy'n cynnwys tablau wedi'u nythu neu sydd angen dwy res er mwyn egluro'r wybodaeth yn y colofnau yn hygyrch a dylai osgoi eu defnyddio nhw. Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth am dablau hygyrch

  • Ceisiwch osgoi defnyddio testun o fewn lluniau, er enghraifft, ffeithluniau sy'n ddelweddau; NID yw'r fformat hwn yn hygyrch. Nid yw darllenydd sgrin yn gallu adnabod y testun o fewn ffeithlun sy'n ddelwedd oherwydd ei fod yn ddelwedd. Mae rhagor o wybodaeth am ddefnyddio delweddau ar gael ar ein gwefan. 

  • Yn olaf, pan fydd eich cynnwys yn barod, anfonwch ef i gael ei gyfieithu gan y Tîm Cymraeg. Unwaith y byddwch chi wedi cael y cynnwys dwyieithog, codwch docyn drwy Ddesg Gymorth TG y Fewnrwyd.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dilyn y cyfarwyddiadau isod: