Hygyrchedd

Beth yw hygyrchedd?

Mae gwefan hygyrch yn golygu bod y gwefannau, yr offer a'r technolegau'n cael eu dylunio a'u datblygu fel y mae unigolion ag anableddau yn gallu eu defnyddio. Yn fwy penodol, mae pobl yn gallu deall, llywio, rhyngweithio a chyfrannu at y we. Mae hygyrchedd y we yn cwmpasu pob anabledd sy'n effeithio ar fynediad at y we, gan gynnwys:

  • clywedol
  • gwybyddol
  • niwrolegol
  • corfforol
  • lleferydd
  • gweledol

Yn ogystal, mae hygyrchedd y we o fudd i bobl heb anableddau, er enghraifft:

  • pobl sy'n defnyddio sgriniau bach fel ffonau symudol ac oriorau clyfar ac ati.
  • pobl hŷn â galluoedd newidiol oherwydd heneiddio.
  • pobl ag anableddau dros dro megis torri braich neu sbectol goll.
  • pobl â chyfyngiadau sefyllfaol megis golau haul llachar neu mewn amgylchedd lle na allan nhw wrando ar sain.
  • pobl sy'n defnyddio cysylltiad rhyngrwyd araf neu sydd â lled band cyfyngedig.

Cyflwyniad i hygyrchedd ar y we (Saesneg yn unig)

Pa mor hygyrch yw ein gwefan ni a sut rydyn ni'n bwriadu ei gwella

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (CBSC) sy'n berchen ar y wefan hon ac yn ei rheoli. Rydyn ni am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio a mwynhau’r wefan hon.

Ar y rhan fwyaf o dudalennau ein gwefan, dylech chi allu:

  • Darllen yr holl destun heb fod angen newid lliwiau na ffontiau.
  • Chwyddo hyd at 300% heb i'r testun mynd oddi ar y sgrin.
  • Llywio gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.
  • Llywio gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais.
  • Gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin cyfoes.

Rydyn ni hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall. Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais chi yn haws ei defnyddio os oes gennych chi anabledd neu unrhyw ofynion hygyrchedd.

Rhannau o'r wefan hon nad ydyn nhw'n gwbl hygyrch

Rydyn ni'n gwybod nad yw rhai rhannau o'n gwefan a'n gwasanaethau ni yn gwbl hygyrch, ac rydyn ni'n gwneud ein gorau ni i ddatrys y problemau hyn.

  • Mae testun amgen ar goll mewn rhai delweddau.
  • Nid yw rhai dogfennau, gan gynnwys dogfennau ar ffurf PDF, yn gwbl hygyrch eto.
  • Nid oes capsiynau gan y rhan fwyaf o'n fideos wedi'u mewnblannu ni.
  • Mae rhai o'n ffurflenni ar-lein ni yn anodd eu llywio gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Os byddwch chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydyn nhw wedi'u rhestru ar y dudalen hon, neu'n meddwl nad ydyn ni'n bodloni gofynion hygyrchedd, rhowch wybod am unrhyw broblem hygyrchedd.

Gwybodaeth fanwl am hygyrchedd y wefan hon 

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.1 (Saesneg yn unig). Ar hyn o bryd, mae gan y wefan y problemau canlynol rydyn ni'n gweithio ar eu trwsio:

Problemau gyda'r testun

  • Mae gan rai tudalennau strwythurau pennawd anghywir.
  • Nid yw rhai dolenni yn gwneud synnwyr pan maen nhw'n cael eu darllen y tu allan o'u cyd-destunau, gan ddefnyddio testun fel 'cliciwch yma'.
  • Mae rhai tudalennau'n cynnwys dolenni lluosog sy'n defnyddio'r un testun ond sy'n pwyntio at gyrchfannau gwahanol ar y we.
  • Mae rhai tudalennau'n cynnwys testun nad yw'n hawdd i'w ddeall.

Problemau gyda delweddau

  • Nid oes gan rai delweddau sydd angen disgrifiad unrhyw destun amgen neu mae ganddyn nhw destun amgen gwag.
  • Mae gan rai delweddau addurniadol destun amgen a ddylai fod yn wag.

Problemau gyda ffeiliau PDF a dogfennau eraill

  • Dim ond mewn fformatau fel PDF, Microsoft Word ac Excel y mae rhywfaint o wybodaeth ar gael.
  • Nid yw pob PDF wedi'i ddylunio i fod yn hygyrch.

Problemau gyda thablau

  • Mae rhai tudalennau yn cynnwys tablau heb benawdau.
  • Mae rhai tudalennau'n defnyddio tablau at ddibenion gosodiad.
  • Mae rhai tudalennau yn cynnwys tablau cymhleth.

Problemau gyda sain a fideo

  • Nid oes gan rai fideos gapsiynau.
  • Mae rhai fideos yn defnyddio capsiynau sydd wedi'u cynhyrchu'n awtomatig, ac maen nhw'n gallu bod yn anghywir.

Problemau gyda llywio bysellfwrdd

  • Mae'n gallu bod yn anodd defnyddio rhai elfennau sy'n datgelu cynnwys cudd – megis cynnwys gyda thabiau – yn enwedig pan maen nhw'n cael eu defnyddio gyda darllenydd sgrin.
  • Mae rhai o'n tudalennau ni gyda chynnwys o systemau sydd wedi'u darparu gan gyflenwr allanol. Rydyn ni'n ymwybodol o faterion hygyrchedd gyda rhai o'r offer hyn. Byddwn ni'n adrodd am faterion o'r fath i gyflenwyr ac yn gweithio gyda nhw i wella hygyrchedd eu hoffer nhw.

Problemau gydag offer rhyngweithiol 

  • Mae rhai o'n tudalennau ni gyda chynnwys o systemau sydd wedi'u darparu gan gyflenwr allanol. Rydyn ni'n ymwybodol o faterion hygyrchedd gyda rhai o'r offer hyn. Byddwn ni'n adrodd am faterion o'r fath i gyflenwyr ac yn gweithio gyda nhw i wella hygyrchedd eu hoffer nhw.

Gwiriwch ein datganiad am hygyrchedd.