Trefniadau Pleidleisio 

Adolygiad o ddosbarthau etholiadol a mannau/gorsafoedd pleidleisio 2024

Y rheswm dros gynnal adolygiad

Cyflwynodd adran 17 o Ddeddf Cofrestru a Gweinyddu Etholiadol 2013 ddyletswydd ar awdurdodau lleol i ‘gynnal a chwblhau’ adolygiadau o ddosbarthau etholiadol a mannau pleidleisio. Rhaid chwblhau'r adolygiad gorfodol nesaf cyn 31 Ionawr 2025.

Er mwyn cydymffurfio â'r ddyletswydd hon, cynhelir yr adolygiad ym mwrdeistref sirol Caerffili rhwng 9 Chwefror 2024 a 28 Mawrth 2024.

O dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, Deddf Gweinyddiaeth Etholiadol 2006 a Rheoliadau Adolygu Dosbarthau Etholiadol a Mannau Pleidleisio (Etholiadau Seneddol) 2006, mae dyletswydd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i rannu'r dosbarth yn ddosbarthau etholiadol ac i bennu man pleidleisio ar gyfer pob dosbarth etholiadol.

Beth yw dosbarth etholiadol? 

Mae dosbarth etholiadol yn ardal ddaearyddol ac, yn ôl y ddeddfwriaeth, mae'n ofynnol i bob cymuned fod yn ddosbarth etholiadol ar wahân. Os yw'r gymuned yn un fawr, er mwyn darparu mynediad hawdd, gellir rhannu'r gymuned yn ddosbarthau etholiadol llai.

Beth yw man pleidleisio? 

Mae ‘man pleidleisio’ yn ardal ddaearyddol lle mae gorsaf bleidleisio. Nid oes unrhyw ddiffiniad cyfreithiol o fan pleidleisio. Gellid diffinio'r ardal ddaearyddol fel adeilad penodol neu'n ehangach fel dosbarth etholiadol cyfan. At ddibenion ymarferol, mae'r Cyngor wedi diffinio pob dosbarth etholiadol fel y man pleidleisio yn hytrach na fel adeilad penodol, ond bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu yn ystod y broses adolygu hon. Dylai mannau pleidleisio fod yn y dosbarth etholiadol oni bai nad yw'n bosibl dod o hyd i le addas yn yr ardal. 

Beth yw gorsaf bleidleisio?

Gorsaf bleidleisio yw'r union ardal lle cynhelir y broses bleidleisio, er enghraifft, ystafell mewn canolfan gymunedol neu ysgol.

Sut mae'r adolygiad yn cael ei gynnal?

Cynhelir yr adolygiad rhwng 9 Chwefror 2024 a 28 Mawrth 2024.

Ymgynghorir â'r Swyddog Canlyniadau ar y trefniadau presennol, a bydd yn gwneud sylwadau ar y gorsafoedd pleidleisio a ddefnyddir ar hyn o bryd. Cyhoeddir ei sylwadau fel rhan o'r broses adolygu.

Gwahoddir Cynghorwyr Bwrdeistref Sirol, Cynghorau Cymuned, pleidiau gwleidyddol lleol, preswylwyr a phobl sydd ag arbenigedd penodol mewn perthynas â mynediad i eiddo i gyflwyno eu sylwadau.

Beth sydd ddim yn rhan o'r adolygiad?

Ni fydd ffiniau etholaethau seneddol na ffiniau ac enwau awdurdodau lleol ac ardaloedd etholiadol yng Nghaerffili yn rhan o'r adolygiad.

Swyddogaeth y Comisiwn Etholiadol

Nid yw'r Comisiwn yn rhan o'r broses adolygu ei hun. Fodd bynnag, gall y Comisiwn ystyried sylwadau gan bobl sydd o'r farn bod yr adolygiad heb fodloni gofynion rhesymol etholwyr neu heb roi digon o ystyriaeth i anghenion etholwyr anabl.

Gall y bobl ganlynol fynegi pryderon i'r Comisiwn: 

  • Cyngor Cymuned
  • 30 neu ragor o etholwyr cofrestredig
  • Unrhyw berson sydd wedi cyflwyno sylwadau yn ystod cyfnod yr adolygiad
  • Unrhyw berson nad yw'n etholwr ond sy'n arbenigo ym materion mynediad i eiddo neu gyfleusterau yn achos pobl anabl

O ganlyniad, gall y Comisiwn ddweud wrth yr awdurdod lleol am newid mannau pleidleisio ar sail yr adolygiad ac, os na fydd y Cyngor yn gwneud hynny o fewn deufis, gall y Comisiwn weithredu'r newidiadau.

Amserlen yr adolygiad

  • Dechrau'r adolygiad / Hysbysiad 9 Chwefror 2024
  • Ymgynghoriad – sylwadau cychwynnol i ddod i law erbyn 29 Chwefror 2024
  • Cyhoeddi sylwadau'r Gwasanaethau Etholiadol a'r Swyddog Canlyniadau 7 Mawrth 2024
  • Cyhoeddi'r canlyniad / Daw'r trefniadau diwygiedig i rym 28 Mawrth 2024

Cyflwyno sylwadau

Nid oes rhaid i chi gyfyngu'r sylwadau i faterion ynghylch newid y cynigion; mae croeso i chi hefyd fynegi eich cefnogaeth i'r trefniadau presennol. Cofiwch ddarparu cymaint o wybodaeth berthnasol ag sy'n bosibl am eich man pleidleisio presennol/gorsaf bleidleisio bresennol wrth gyflwyno eich sylwadau, gan gynnwys pa mor gyfleus (neu beidio) mae'r lleoliad mewn perthynas â'ch cartref, a oes digon o leoedd parcio, materion o ran mynediad ar gyfer pobl anabl a/neu ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a pha mor addas mae'r lle ar gyfer bwrw pleidlais yn gyffredinol. Nodwch hefyd a oes unrhyw leoedd addas eraill y gellid eu defnyddio. 

Anfonwch eich sylwadau ar bapur i: Adolygiad Pleidleisio, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Tŷ Bargod, 1 Ffordd Santes Gwladys, Bargod, CF81 8AB neu mewn e-bost i etholiadau@caerffili.gov.uk. Mae ffurflen adborth hefyd ar gael i'w chyflwyno fel rhan o'r pecyn ymgynghori hwn neu o'r cyfeiriad uchod.