Polisïau trwyddedau tacsis

Ni sy'n gyfrifol am drwyddedu cerbydau hacni a gyrwyr, cerbydau a gweithredwyr llogi preifat. Diogelwch y cyhoedd sydd bwysicaf oll a gan hynny byddwn yn sicrhau, cyn belled â bod hynny’n bosibl, bod gyrwyr yn bobl addas i wneud y gwaith, bod eu gwasanaeth yn ddiogel, eu bod yn gwrtais a gonest, ac na fyddant yn manteisio ar draul unrhyw deithiwr.

Rydym wedi cyflwyno polisïau i’n cynorthwyo wrth benderfynu ar geisiadau neu ddatrys materion eraill a all godi mewn cysylltiad â gyrwyr. Hefyd Polisi Gyrrwyr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat, mae gennym feini prawf addasrwydd ar gyfer gyrwyr a gweithredwyr mewn perthynas â throseddau neu faterion perthnasol eraill a Pholisi Defnydd Arfaethedig ar gyfer trwyddedu cerbydau hacni.

Mae pob cerbyd trwyddedig yn gorfod sefyll prawf i sicrhau, cyn belled â phosib, ei fod yn ddiogel yn fecanyddol, yn lân ac yn gyfforddus. I gynorthwyo perchenogion cerbydau, y cyhoedd a’r rheiny sy’n archwilio’r cerbyd rydym wedi mabwysiadu Safon Archwilio Cerbyd.

Cysylltwch â ni