Polisi Addysg Ddewisol yn y Cartref

Addysg Ddewisol yn y Cartref yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio penderfyniad rhieni i ddarparu addysg ar gyfer eu plant yn y cartref yn hytrach na’u hanfon i’r ysgol. Mae hyn yn wahanol i wersi a ddarperir yn y cartref gan yr ALl neu addysg a ddarperir gan ALl heblaw am yn yr ysgol (EOTAS). Bwriedir y polisi hwn i gael ei ddefnyddio mewn perthynas ag Addysg Ddewisol yn y Cartref yn unig.

Pwrpas y polisi hwn yw annog arfer dda drwy osod safbwynt deddfwriaethol a rolau a chyfrifoldebau’r ALl, ysgolion a rhieni/gofalwyr yn glir mewn perthynas â phlant sy’n cael eu haddysgu yn y cartref o ddewis.

Polisi Addysg Ddewisol yn y Cartref (PDF)