FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00am a 8:00am ar y 05 Mai 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00am and 8:00am on the 05 May 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Datganiad Cyfrifon Drafft - Hysbysiad Statudol 2022-23

Mae Datganiad Cyfrifon Drafft 2022/2023 ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cael ei baratoi yn unol â Chodau Ymarfer Cyfrifyddu Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) perthnasol, Safonau Cyfrifyddu a Darpariaethau Statudol. Fodd bynnag, nid yw'r Cyfrifon hyn wedi'u cwblhau a'u hardystio gan y Swyddog Cyllid Cyfrifol erbyn 31 Mai 2023, ac felly mae angen yr hysbysiad canlynol yn unol ag adran 10(4) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014:

  • Yn dilyn y pandemig Covid-19 a materion archwilio asedau isadeiledd a gafodd eu codi yn 2021/22, bu rhywfaint o aflonyddwch yn yr amserlen paratoi cyfrifon safonol ar gyfer sawl blwyddyn. Felly, nid yw'r Swyddog Cyllid Cyfrifol wedi llofnodi nac ardystio'r cyfrifon ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023. 
  • Mae'r Awdurdod yn bwriadu cwblhau'r gwaith o baratoi'r Datganiad Cyfrifon Drafft erbyn 31 Gorffennaf 2023. Wedyn, bydd y Swyddog Cyllid Cyfrifol yn ystyried y gofyniad i lofnodi ac ardystio'r Cyfrifon yn unol â'r rheoliadau perthnasol. 
  • Ar ôl eu cwblhau, bydd y Cyfrifon Drafft yn destun archwiliad cyhoeddus ac archwiliad allanol fel sy'n ofynnol gan Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) a Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru).