Anghenion Dysgu Ychwanegol Hysbysiadau Preifatrwydd

  • Gwasanaeth: Dysgu, Addysg a Chynhwysiant
  • Maes Gwaith: Tîm Asesiadau Statudol a Chymorth Ychwanegol
  • Manylion Cyswllt: Irene Yendle, Arweinydd Tîm Statudol 01443 866635 / Yendli@caerphilly.gov.uk
  • Enw’r Hysbysiad Preifatrwydd: Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Disgrifiad o’r Hysbysiad Preifatrwydd: Bydd yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn egluro sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn defnyddio gwybodaeth amdanoch chi (dysgwr) pe bai’r Awdurdod Lleol neu’r Ysgol/Lleoliad Addysgol yn derbyn cais am gwblhau asesiad statudol ohonoch (dysgwr) o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) 2018 a / neu pe bai eich ysgol / lleoliad addysgol yn gofyn am gyllid cymorth ychwanegol gan fod angen mwy o help arnoch i wneud cynnydd.

Sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth

Ffynhonnell a math o wybodaeth sy’n cael ei phrosesu

Categorïau / Ffynhonnell y data personol a geir

Gallwch chi neu eich Rhieni/Gofalwyr, Ysgolion, Gwasanaethau Plant a Gweithwyr Iechyd Proffesiynol wneud cais am gynnal asesiad statudol arnoch.

Gall ysgolion / lleoliadau addysgol ofyn am gyllid cymorth ychwanegol i gefnogi’r dysgwr lle mae angen mwy o help ar y dysgwr i wneud cynnydd.

Er mwyn i’r Awdurdod Lleol brosesu ceisiadau o’r fath, gallai’r person / sefydliad sy’n atgyfeirio ddarparu’r wybodaeth ganlynol i’r Awdurdod Lleol.

  • Enw a manylion cyswllt;
  • Cofnodion meddygol;
  • Adroddiadau addysgol;
  • Manylion amgylchiadau’r teulu (Gwasanaethau Plant)
  • Presenoldeb yn yr ysgol / Dyddiad gwahardd / Data cyrhaeddiad

Os nad ydych chi’n siŵr pwy wnaeth y cais cysylltwch â’r Awdurdod Lleol ar y manylion uchod i gael rhagor o wybodaeth.

Diben a sail gyfreithiol dros ddefnyddio eich gwybodaeth

Diben y gwaith prosesu

Gall lleoliad cyn ysgol, ysgol neu leoliad addysgol y rhan fwyaf o ddysgwyr fodloni eu hanghenion, weithiau gyda help arbenigwyr allanol.  Mae ysgolion yn derbyn cyllid i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol drwy roi cymorth ychwanegol neu benodol iddynt.  Fodd bynnag, mewn rhai achosion gofynnir i’r Awdurdod Lleol neilltuo cymorth ychwanegol.  Gellir gofyn i’r Awdurdod Lleol a lleoliadau addysgol gwblhau asesiad statudol o anghenion dysgu ychwanegol dysgwr o dan Ddeddf ADY 2018.

Mae’r Awdurdod Lleol yn ystyried pob cais am gymorth ychwanegol / asesiadau statudol sy’n dod i law gan y dysgwr, ysgolion, rhieni ac asiantaethau eraill.

Trafodir ceisiadau am gymorth ychwanegol yng nghyfarfod Panel ADY yr Awdurdod Lleol sy’n cael ei gynnal ym mhresenoldeb Swyddogion Gwasanaethau Addysg yr Awdurdod Lleol a Phenaethiaid o fewn yr Awdurdod Lleol.

Asesiad hynod fanwl o ddysgwr yw Asesiad Statudol sy’n cael ei gwblhau gan yr Awdurdod Lleol neu leoliad addysgol.  Mae’r asesiad yn cynnwys gwybodaeth gan rieni/gofalwyr, y dysgwr, Ysgol, Seicolegydd Addysg, gweithwyr iechyd proffesiynol ac, os yn briodol, y Gwasanaethau Plant.  Diben yr asesiad yw canfod a oes angen Cynllun Datblygu Unigol (CDU) ar y dysgwr

Mae’r CDU yn ddogfen gyfreithiol sy’n disgrifio pa help sydd angen ar y dysgwr i fodloni ei anghenion dysgu ychwanegol.

Rhaid cwblhau’r broses o fewn yr amserlen a nodir yn Neddf a Chod ADY (35 diwrnod ysgol fel arfer ar gyfer Ysgolion a 12 wythnos ar gyfer yr Awdurdod Lleol) a bydd yr Awdurdod Lleol a/neu’r lleoliad addysgol yn ystyried y dystiolaeth a ddarperir gan yr holl asiantaethau a phenderfynu a yw’r dysgwr yn diwallu’r meini prawf ar gyfer cyflwyno CDU.

Adolygir pob CDU yn flynyddol gan rannu gwybodaeth wedi’i diweddaru gan y dysgwr, rhiant/gofalwr, Ysgolion/lleoliad addysgol, Iechyd, Gwasanaethau Addysg yr Awdurdod Lleol a’r Gwasanaethau Plant, lle bo rhaid.

Sail gyfreithiol ar gyfer y gwaith prosesu

Mae rhwymedigaeth tasg gyhoeddus i brosesu eich gwybodaeth sydd wedi’i manylu isod:

  • Deddf ADY 2018
  • Cod ADY Cymru 2021​

Er mwyn prosesu eich data personol i fod yn gyfreithlon o dan Reoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2016, rhaid nodi amod dilys o Erthygl 6 o’r Rheoliadau, sydd wedi’i amlinellu isod (nid yw ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniadau o ddeddfwriaeth nad yw wedi ei gwneud yn Gymraeg ydyw):

1e. processing is necessary for the performance of a task carried out in the public interest or in the exercise of official authority vested in the controller; Data Protection legislation provides extra protection for certain classes of information called 'special personal data'. If any information falls within the definition of special personal data then an additional condition from Article 9 of the Regulations must be identified, as outlined below:

This condition is met if the processing:

  • is necessary for a purpose listed in sub-paragraph, and
  • is necessary for reasons of substantial public interest.

Those purposes are:

  • the exercise of a function conferred on a person by an enactment or rule of law;
  • the exercise of a function of the Crown, a Minister of the Crown or a government department.

Pwy fydd yn gallu gweld eich gwybodaeth?

Pwy yw’r Rheolydd Data a’r Swyddog Diogelu Data

Rheolydd Data eich gwybodaeth yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Y Swyddog Diogelu Data yw:

Gallai Rheolwyr Data eraill fod yn gyfrifol am eich gwybodaeth hefyd, yn dibynnu ar yr amgylchiadau penodol. Cysylltwch â’r Gwasanaeth am ragor o wybodaeth.

Manylion prif ddefnyddwyr eich gwybodaeth

Prif ddefnyddiwr eich gwybodaeth fydd Tîm Asesiadau Statudol a Chymorth Ychwanegol, Ysgolion a lleoliadau addysgol eraill 

Trafodir ceisiadau am gymorth ychwanegol yng nghyfarfod Panel ADY yr Awdurdod Lleol sy’n cael ei gynnal ym mhresenoldeb Swyddogion Gwasanaethau Addysg yr Awdurdod Lleol a Phenaethiaid o fewn yr Awdurdod Lleol.

Manylion rhannu’ch gwybodaeth o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Er mwyn cynnal Asesiad Statudol / ceisiadau am gymorth ychwanegol, bydd angen i’r Awdurdod Lleol weithio gyda gwasanaethau eraill a gofyn am/rhannu gwybodaeth gyda gwasanaethau eraill o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, megis y canlynol:

  • Plant a Phobl Ifanc (Y Dysgwr)
  • Derbyniadau Addysg
  • Y Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Gwasanaethau Plant
  • Diogelu Plant
  • Uned Cludiant Teithwyr
  • Archwilio/Cyllid

Manylion rhannu’ch gwybodaeth gyda sefydliadau eraill

Er mwyn cynnal Asesiad Statudol / ceisiadau am gymorth ychwanegol, bydd angen i’r Awdurdod Lleol weithio gyda sefydliadau eraill a gofyn am/rhannu gwybodaeth gyda sefydliadau eraill, megis y canlynol:

  • Gyrfa Cymru
  • Byrddau Iechyd
  • Llywodraeth Cymru
  • Tribiwnlys Addysg Cymru
  • Gwasanaeth Partneriaeth Rhieni SNAP Cymru / Gwasanaethau Eiriolaeth eraill
  • Ysgolion a Gynhelir a Lleoliadau Addysgol eraill
  • Meithrinfeydd ac Ysgolion nas cynhelir a Lleoliadau/Ysgolion Arbenigol Annibynnol / Sefydliadau Addysg Bellach ac Awdurdodau Lleol eraill

Ceisiadau am wybodaeth

Gallai’r holl wybodaeth ar gofnod a gynhelir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili fod yn destun ceisiadau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a Deddf Diogelu Data 1998.

Os yw’r wybodaeth rydych chi’n ei rhoi yn destun cais o’r fath, lle bo’n bosibl bydd yr Awdurdod Lleol yn ymgynghori â chi ynghylch ei rhyddhau. Os byddwch yn gwrthwynebu rhyddhau eich gwybodaeth, bydd yr Awdurdod Lleol yn dal eich gwybodaeth yn ôl os bydd y ddeddfwriaeth berthnasol yn caniatáu hynny.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth?

Manylion cyfnod cadw

Mae’r cyfnod y mae’r Awdurdod Lleol yn cadw’r wybodaeth yn dibynnu ar ofynion statudol neu arfer gorau.

Bydd yr Awdurdod Lleol yn cadw eich gwybodaeth am 35 mlynedd ar ôl cau eich achos.

Eich Hawliau (gan gynnwys y Weithdrefn Gwyno)

Eich hawliau o dan Ddeddf Diogelu Data 1998

Mae Diogelu Data yn rhoi nifer o hawliau i wrthrychau’r data (y rhai sy’n destun y wybodaeth):

  • Yr hawl i fynediad - Mae ffurflenni cais ar gyfer y broses hon ar gael ar ein gwefan: Ffurflen Cais Gwrthrych y Data am Fynediad
  • Yr hawl i gael gwybodaeth
  • Yr hawl i gywiro
  • Yr hawl i ddileu eich data
  • Yr hawl i gyfyngu ar brosesu data
  • Yr hawl i wrthwynebu
  • Yr hawl i gludo data
  • Hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau a phroffilio awtomataidd.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am eich hawliau o: www.ico.org.uk

Er mwyn arfer eich hawliau cysylltwch â’r gwasanaeth a nodir ar frig y ffurflen hon.

Y Weithdrefn Gwyno

Os nad ydych chi’n fodlon ar y ffordd y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi trin eich cais / gwybodaeth, mae gennych yr hawl i gwyno. Cysylltwch â’r gwasanaeth a nodir ar frig y ddogfen hon gan amlinellu eich pryderon.

Os byddwch yn anfodlon o hyd, mae gennych yr hawl hefyd i gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.  

Crynodeb o’r Hysbysiad Preifatrwydd

Sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn prosesu ceisiadau sy’n dod i law am gynnal asesiad statudol arnoch neu eich ysgol / lleoliad addysgol yn gofyn am gyllid cymorth ychwanegol er mwyn cynnal asesiad. 

Bydd hyn yn golygu coladu/rhannu gwybodaeth gyda gwasanaethau eraill o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a sefydliadau eraill megis ysgolion / sefydliadau addysgol perthnasol, Gyrfa Cymru, Byrddau Iechyd, Llywodraeth Cymru, Tribiwnlys Addysg Cymru, SNAP Cymru, Gwasanaethau Eiriolaeth eraill ac Awdurdodau Lleol eraill.  Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw am 35 mlynedd.

Mae gennych nifer o hawliau mewn perthynas â’ch gwybodaeth gan gynnwys yr hawl i gael mynediad at y wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch a’r hawl i gwyno os nad ydych chi’n fodlon ar y ffordd y mae eich gwybodaeth yn cael ei phrosesu.