Hawliau testun data
Mae deddfau diogelu data yn gosod y rheolau ar sut rydym yn diogelu ac yn defnyddio gwybodaeth am unigolion sy’n fyw (yr hyn a elwir ‘data personol’). Maent hefyd yn rhoi nifer o hawliau i’r unigolion yr ydym yn cadw gwybodaeth amdanynt.
Mae ein Polisi Diogelu Data yn disgrifio ein dulliau ni o ddiogelu data personol yn unol â’r deddfau diogelu data.
Os ydych yn gwneud cais am fynediad i’ch data personol; neu i’w cywiro, eu dileu neu gyfyngu ar eu prosesu; os ydych yn gwrthwynebu’r gwaith o brosesu’ch data personol, neu os oes ceisiadau gennych sy’n ymwneud â chludadwyedd data neu broffilio/ gwneud penderfyniadau awtomataidd, mae gennym un mis i ymateb ichi, ac yn y rhan fwyaf o achosion, ni chodir ffi am y ceisiadau. Byddwn yn rhoi gwybod ichi os bydd angen ymestyn y cyfnod cydymffurfio neu os codir ffi am y cais.
Dylech lenwi’r Ffurflen Gais am Fynediad at Ddata gan y Testun isod os hoffech gael mynediad i’ch gwybodaeth bersonol.
Gallwch wneud ceisiadau o dan gyfraith diogelu data yn uniongyrchol i’r adran neu faes gwasanaeth perthnasol, neu’n uniongyrchol i’r Uned Llywodraethu Gwybodaeth Gorfforaethol. Byddai o gymorth mawr pe gallech gyflwyno’ch cais yn ysgrifenedig (trwy lythyr neu e-bost) ac ymateb yn brydlon i unrhyw gwestiynau ychwanegol sydd gennym er mwyn ein galluogi ni i’ch cynorthwyo chi.
Er mwyn prosesu’ch cais, mae’n bosibl y bydd angen ichi ddarparu dull adnabod. Os ydych yn gwneud y cais ar ran rhywun arall, mae’n bosibl y bydd angen tystiolaeth o’ch awdurdod chi ynghyd â dull adnabod oddi wrthych. Os felly, byddwn yn rhoi gwybod ichi ac ni fydd y cyfnod cydymffurfio ar gyfer ymateb i’ch cais yn cychwyn hyd nes i’ch dull adnabod / dogfennau ategol ddod i law.
Mae rhagor o wybodaeth am yr hawliau hyn ar gael isod neu gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Hawl i gael eich hysbysu
Mae gennych hawl i gael eich hysbysu am y prosesau i gasglu a defnyddio’ch data personol. Gweler tudalen yr Hysbysiad Preifatrwydd am ragor o wybodaeth.
Hawl mynediad
Mae gennych hawl i wneud cais am gopi o’r data personol a gedwir amdanoch. Byddai o gymorth pe gallech lenwi’r Ffurflen Gais am Fynediad at Ddata gan y Testun gan gynnwys cymaint o fanylion â phosibl i’n galluogi ni i ddod o hyd i’r wybodaeth mae ei hangen. Mae’r ffurflen hefyd yn nodi’r dull adnabod a’r dogfennau ategol y bydd arnom eu hangen er mwyn prosesu’ch cais.
Hawl i gywiro
Mae gennych hawl i ofyn inni gywiro data personol amdanoch sy’n anghywir, neu gynnwys data sydd ar goll.
Hawl i ddileu
Mae gennych hawl i ofyn inni ddileu data personol amdanoch, neu eu dinistrio mewn rhai amgylchiadau penodol. Weithiau gelwir hyn ‘yr hawl i gael eich anghofio’.
Hawl i gyfyngu ar brosesu
Mae gennych hawl i ofyn inni gyfyngu ar neu atal y defnydd o ddata personol amdanoch o dan rai amgylchiadau penodol. O dan yr hawl hon gallwch hefyd ofyn inni beidio â dileu neu ddinistrio’ch data personol.
Hawl i gludadwyedd data
Mae gennych hawl i ofyn am gludadwyedd data mewn perthynas â’ch data personol o dan rai amgylchiadau penodol. Mae hyn yn golygu y gallwch dderbyn data personol amdanoch ar ffurf gyffredin y gall peiriant ei darllen, megis ffeil csv, a gallwch hefyd ofyn inni anfon y data personol hyn at sefydliad arall.
Hawl i wrthwynebu
Mae gennych hawl i wrthwynebu’r gwaith o brosesu data personol amdanoch o dan rai amgylchiadau penodol. Os cytunir i’r gwrthwynebiad, byddwn yn rhoi’r gorau i ddefnyddio’ch data personol ar gyfer y diben yr ydych yn ei wrthwynebu.
Hawliau’n ymwneud â phroffilio a gwneud penderfyniadau awtomataidd
O dan rai amgylchiadau penodol, mae gennych hawl i beidio â bod yn destun penderfyniad sydd wedi’i seilio ar brosesu awtomataidd yn unig os yw’r penderfyniad yn effeithio ar eich hawliau cyfreithiol neu unrhyw fater arall o’r un pwys. Lle caniateir i sefydliad wneud penderfyniadau wedi’u seilio ar brosesu awtomataidd yn unig, mae gennych hawl i:
- fynegi’ch barn ynghylch y penderfyniad;
- gofyn am esboniad o’r penderfyniad a’r canlyniadau posibl;
- gofyn i fod dynol ymyrryd yn y broses gwneud penderfyniadau a herio penderfyniad
O dan yr hawl hon, gallwch hefyd wrthwynebu’r broses proffilio mewn rhai sefyllfaoedd penodol, gan gynnwys marchnata uniongyrchol.