Panel Safbwynt
Sefydlwyd Panel Safbwynt Caerffili fel rhan o’n hymrwymiad i ddeall barn ein trigolion.
Mae'r panel yn cynnwys grŵp o bobl leol sy'n byw ym mwrdeistref sirol Caerffili sydd wedi cael eu dewis i gynrychioli eich cymuned. Rydym yn ceisio sicrhau bod gennym gynrychiolwyr o bob sector o'r gymuned ac o bob cwr o'r fwrdeistref sirol. Er mwyn ein helpu i gyflawni hyn, rydym yn aml yn gwahodd aelodau o grwpiau trigolion eraill i gymryd rhan yn ymgynghoriadau'r Panel Safbwynt, er enghraifft, Rhwydwaith Rhieni Caerffili, Fforwm Ieuenctid Caerffili a Fforwm 50+ Caerffili.
Gofynnir i aelodau'r panel lenwi nifer o holiaduron bob blwyddyn am y Cyngor, ein partneriaid a'r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu. Hefyd gwahoddir aelodau'r panel i fynychu cyfarfodydd i drafod pynciau ychydig yn fwy manwl.
Ymaelodi â’r Panel Safbwynt
Os ydych dros 16 oed a hoffech ddod yn aelod, cysylltwch â'n Swyddog Ymgysylltu â'r Cyhoedd. Rydym yn croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned ac rydym yn awyddus iawn i glywed barn oedolion iau, pobl sydd ag anableddau a’r rhai o’r gymuned pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig sydd, fel arfer, wedi’u tangynrychioli ar y Panel Safbwynt.
Os hoffech chi wybod mwy am ein Panel Safbwynt, cysylltwch â’n Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd.