Panel Safbwynt
Cafodd Panel Safbwynt Caerffili ei sefydlu fel rhan o'n hymrwymiad ni i ddeall barn ein trigolion.
Mae'r panel yn cynnwys grŵp o bobl leol sy'n byw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili sy'n awyddus i gymryd rhan a dweud eu dweud. Rydyn ni'n ceisio sicrhau bod gennym ni gynrychiolwyr o bob sector o’r gymuned, ac o bob rhan o'r Fwrdeistref Sirol.
Rydyn ni'n gwahodd aelodau'r panel i gymryd rhan a dweud eu dweud am amrywiaeth o faterion a chynigion y Cyngor. Gallai hyn fod trwy gwblhau arolygon neu fynychu trafodaethau wyneb yn wyneb ac ar-lein.
Ymaelodi â’r Panel Safbwynt
Os ydych chi'n dros 16 oed a hoffech chi ddod yn aelod, Ymunwch yn Nhrafodaeth Caerffili gan sicrhau eich bod chi'n ticio'r blwch i nodi yr hoffech chi ymuno â'r Panel.
Rydyn ni'n croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymuned ac rydyn ni'n awyddus yn enwedig i glywed barn oedolion iau, pobl ag anableddau a rhai o'r gymuned pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig sydd, yn aml, wedi'u tangynrychioli ar y Panel Safbwynt.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ein Panel Safbwynt, cysylltwch â'n Tîm Ymgysylltu â'r Cyhoedd.
E-bost: ymgynghori@caerffili.gov.uk
Ffôn: 01443 863478