Cwynion gwasanaethau cymdeithasol

Rydym am i'n gwasanaethau i fod y gorau y gallant, a dyna pam mae eich adborth yn bwysig i ni.

Efallai y byddwch yn teimlo'n anhapus gyda gwasanaeth yr ydych wedi'i dderbyn, neu efallai y bydd gennych syniad sy'n ein helpu i wella.

Os yw aelod o staff neu dîm wedi darparu gwasanaeth ardderchog i chi, byddem wrth ein bodd yn clywed amdano.

Os ydych yn anfodlon â gwasanaeth yr ydych wedi ei dderbyn neu os ydych am wneud cwyn ar ran rhywun arall, cysylltwch â'r Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid. Gallwch wneud hyn drwy lenwi ein ffurflen ar-lein

Gwneud cwyn, sylw neu roi canmoliaeth >

Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari.

Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili.  Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau.  Os nad ydych am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym!

Fel arall, gallwch gysylltu â ni mewn un o'r ffyrdd canlynol:

Gwasanaethau Cymdeithasol
Tŷ Penallta
Parc Tredomen
Hengoed
CF82 7PG

  • Yn bersonol drwy apwyntiad (defnyddiwch y rhif ffôn rhad ac am ddim) 

Dywedwch wrthym os ydych am i ni ddelio â'ch cwyn drwy'r Gymraeg.

Peidiwch â bod ofn cwyno. Rydym yn croesawu eich sylwadau, rhai cadarnhaol a negyddol, oherwydd gallant ein helpu nni i wella ein gwasanaethau i bawb. Mae ndau gam i’r broses cwynion. Gallech wneud eich cwyn cyntaf naill ai yng Ngham 1 neu Gam 2.

Cam 1 – datrysiad lleol

Mae’r rhan fwyaf o broblemau’n cael eu datrys orau gan staff sy’n gweithio gyda chi. Cysylltwch â’r person sy’n gyfrifol am eich gwasanaeth lleol neu cysylltwch â’n swyddog cwynion a fydd yn siarad â’r person hwnnw ar eich rhan. Gallwch wneud hyn wyneb yn wyneb, ar y ffôn, drwy ysgrifennu neu are-bost. Byddant yn gwneud eu gorau i ddatrys pethau’n gyflym. Ni ddylai hyn gymryd mwy na thair wythnos.

Cam 2 – ystyriaeth ffurfiol

Cysylltwch â’n swyddog cwynion a fydd yn trefnu i rywun i ymchwilio i’r gwˆ yn. Ni fydd y person yn gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae gennych hawl i ddisgwyl ymateb gan y Cyngor cyn pen pum wythnos. Gallwch gysylltu â’r swyddog cwynion i wneud eich cwyn o’r cychwyn, neu ar ôl siarad â’r staff sy’n gweithio gyda chi yn gyntaf. Efallai bydd eich swyddog cwynion hefyd yn awgrymu datrys eich cwyn trwy gyfryngiad.

Dal yn anfodlon?

Os ydych yn dal yn anfodlon gyda chanlyniad eich cwyn, gallwch gysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ysgrifenedig i: 1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, Pen-y-bont CF35 5LJ.

Cael cymorth i fynegi eich pryder

Os oes angen help arnoch i fynegi pryder, gall Llais – eich llais mewn iechyd a gofal cymdeithasol eich helpu i wneud hyn.

Mae Llais yn gorff annibynnol a gall ei wasanaeth Eiriolaeth rhad ac am ddim darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i aelodau o’r cyhoedd a all ddymuno codi pryder.

Gall Llais eich cefnogi i fynegi pryder a rhoi cyngor ar y camau gweithredu mwyaf priodol. Gallwch gysylltu â’ch swyddfa Llais leol yn y cyfeiriad canlynol:

Gwasanaeth Eiriolaeth
Llais – Rhanbarth Gwent
Ty Rhaglan
6-8 William Brown Close
Parc Busnes Llantarnam
Cwmbrân
NP44 3AB

Ffôn: 01633 838516
E-bost: gwentadvocacy@llaiscymru.org
Ewch i wefan Llais