Pwyllgorau craffu
Rydym wedi sefydlu nifer o bwyllgorau a phaneli craffu, sy'n cydweithio i arolygu 8 portffolio'r cabinet.
Cliciwch ar y dolenni isod i bori drwy gyfarfodydd, agendâu, aelodaeth ac ystadegau presenoldeb.
Rôl pob pwyllgor craffu
Mae pob pwyllgor craffu yn cynnwys 16 o gynghorwyr sy'n cwrdd bob chwe wythnos. Mae gan bob un rôl 'corff gwarchod' i sicrhau bod y cyngor yn cyflawni ei gyfrifoldebau'n briodol ac yn atebol am ei weithredoedd lle y bo angen.
Mae gan bwyllgorau craffu bedair prif rôl:
- Dwyn y cabinet a'r swyddogion, fel y rhai sy'n gwneud penderfyniadau, i gyfrif
- Cynnal adolygiadau o wasanaethau a pholisïau'r cyngor
- Cynnal adolygiadau i ddatblygu gwasanaethau a pholisïau'r cyngor
- Ystyried unrhyw fater arall sy'n effeithio ar y fwrdeistref sirol
Wrth ymgymryd â'r rolau hyn bydd pwyllgorau craffu yn gwneud y canlynol:
- Gallu 'galw i mewn' benderfyniadau a wneir gan y Cabinet a'r swyddogion
- Sefydlu Grwpiau Gorchwyl a Gorffen i gynnal adolygiadau a datblygu gwasanaethau a pholisïau'r cyngor neu unrhyw fater arall sy'n effeithio ar y fwrdeistref sirol
- Ceisio cyngor gan randdeiliaid a phartneriaid allweddol megis busnesau, mudiadau gwirfoddol a sector cyhoeddus, undebau llafur, grwpiau diddordeb arbennig, cymunedau lleol ac aelodau unigol o'r cyhoedd.
Ni all y pwyllgorau craffu wneud y canlynol:
- Gwneud penderfyniadau ar ran y cyngor
- Craffu ar benderfyniadau penodol y Pwyllgor Cynllunio, y Pwyllgor Trwyddedu na'r Pwyllgor Hawliau Tramwy sydd â chyfrifoldebau lled-farnwrol dros wneud penderfyniadau
- Delio ag ymholiadau, pryderon, neu gwynion unigol. Os nad ydych chi'n fodlon â gwasanaeth neu os oes gennych chi gŵyn, cysylltwch â'r swyddog perthnasol sy'n gyfrifol am y maes pwnc hwnnw. Fodd bynnag, os na allwch ddatrys yr ymholiad, defnyddiwch drefn gwyno gorfforaethol y cyngor.
Cymryd rhan mewn cyfarfodydd pwyllgorau craffu
Rhaid i Bwyllgorau Craffu wneud trefniadau i alluogi pobl sy'n byw neu'n gweithio yn ardal yr awdurdod lleol i gyflwyno sylwadau ar unrhyw fater sy'n cael ei drafod. Ewch i'r adran Cymryd rhan mewn craffu i gael manylion.